Aberystwyth 1–1 Port Talbot
Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi rhwng Aberystwyth a Phort Talbot yng Nghoedlan y Parc nos Wener. Rhoddodd Richard Greaves yr ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Josh Shaw unioni i’r tîm cartref wedi’r egwyl.
Dylai Greaves fod wedi sgorio yn y munudau agoriadol yn dilyn gwaith da gan Lee De-Vulgt ar y chwith ond peniodd yn syth at Steve Cann yn y gôl i Aber. Ond fe wnaeth Graves guro Cann wedi 16 munud gydag ergyd o ochr y cwrt cosbi yn dilyn pas hir dda gan De-Vulgt.
Dylai’r ddau dîm fod wedi cael cic o’r smotyn yr un cyn yr egwyl ond anwybyddu’r ddau lawiad a wnaeth y dyfarnwr.
Roedd Aber yn gyfartal wedi 66 munud diolch i ergyd dda o ochr y cwrt cosbi gan yr eilydd, Josh Shaw. A bu bron i Shaw gipio’r tri phwynt i Aber yn hwyr yn y gêm ond gwnaeth Kristian Rogers yn dda i arbed ei ergyd.
Mae’r pwynt yn cadw Port Talbot yn y nawfed safle ac Aberystwyth yn ddegfed.
Caerfyrddin 1–0 Airbus
Roedd gôl gynnar Dan MacDonald yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i Gaerfyrddin yn erbyn Airbus ar Barc Waun Dew brynhawn Sadwrn.
Rhwydodd MacDonald ei gôl gyntaf i glwb newydd wedi dim ond naw munud o’r gêm ac roedd honno’n ddigon i dîm Mark Aizlewood gipio’r fuddugoliaeth.
Mae Caerfyrddin yn aros yn yr unfed safle ar ddeg er gwaethaf y fuddugoliaeth ond dim ond dau bwynt sydd yn eu gwahanu hwy ac Aberystwyth yn y degfed safle bellach. Mae Airbus ar y llaw arall yn aros yn seithfed.
Drenewydd 1–1 Lido Afan
Sgoriodd Leon Jeanne hanner ffordd trwy’r ail hanner i achub gêm gyfartal i Lido Afan yn erbyn y Drenewydd ar Barc Latham brynhawn Sadwrn.
Y tîm cartref oedd ar y blaen ar hanner amser wedi i Craig Hanford sgorio i’w rwyd ei hun chwe munud cyn yr egwyl.
Ond rhwydodd Jeanne ei drydedd gôl mewn dwy gêm 20 munud o’r diwedd i gipio pwynt i’r ymwelwyr.
Mae’r gêm gyfartal yn cadw’r Drenewydd ar waelod y gynghrair tra mae Lido yn aros yn yr wythfed safle ddau bwynt y tu ôl i Airbus yn y seithfed safle holl bwysig.
Llanelli 0-2 Y Seintiau Newydd
Cafodd y Seintiau Newydd fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Llanelli o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn er iddynt chwarae bron i hanner y gêm gyda deg dyn. Er i Connell Rowlinson dderbyn cerdyn coch roedd goliau Greg Draper ac Aeron Edwards yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r ymwelwyr ar Stebonheath.
Castell Nedd 1-0 Prestatyn
Roedd gôl hwyr Kai Edwards yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gastell Nedd yn erbyn Prestatyn ar y Gnoll brynhawn Sadwrn.
Gwnaeth John Hill-Dunt sawl arbediad da i gadw Prestatyn yn y gêm cyn i Edwards sgorio’r gôl fuddugol i Gastell Nedd. Arbedodd gic rydd Lee Trundle a pheniad Luke Bowen yn yr hanner cyntaf.
Ond cafodd y gôl-geidwad ei guro o’r diwedd wedi 73 munud wrth i’r tîm cartref gipio’r tri phwynt.
Mae’r tri phwynt hwnnw ‘n cadw’r Eryrod yn y trydydd safle ac yn cadw’r pwysau ar y ddau dîm ar y brig. Mae Prestatyn ar y llaw arall yn aros yn chweched.
Bala 0–1 Bangor
Roedd gôl yr eilydd Mark Smyth yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i Fangor yn erbyn y Bala ar Faes Tegid brynhawn Sul.
Bu bron i Les Davies roi’r ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond cafodd ei beniad ei glirio oddi ar y llinell gan John Irving. Ac roedd Jamie Brewerton yn meddwl ei fod wedi rhoi’r Dinasyddion ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner ond ni chafodd ei gôl ei chaniatáu gan ei fod yn camsefyll.
Fe ddaeth y gôl i’r pencampwyr yn y diwedd gyda 18 munud ar ôl. Daeth croesiad Peter Hoy o hyd i Smyth yn y canol a gwyrodd ei ergyd ef oddi ar ddau amddiffynnwr a heibio i Terry McCormick yn y gôl i’r Bala.
Mae’r fuddugoliaeth yn adfer pedwar pwynt o fantais Bangor ar frig yr Uwch Gynghrair tra mae’r Bala yn aros yn bumed.