Casnewydd 1–0 Caerfaddon

Cododd Casnewydd o safleoedd y gwymp yn Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth bwysig yn erbyn Caerfaddon ar Barc Sbyty nos Fawrth.

Dim ond un gôl oedd ynddi a daeth honno yn gynnar yn y gêm pan rwydodd Lee Minshull yn y cwrt chwech yn dilyn croesiad Ryan Charles.

Cafodd Glyn Thompson yn y gôl i Gasnewydd ei gadw’n ddigon prysur wedi hynny ond daliodd y tîm cartref eu gafael ar y tri phwynt.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r tîm o Gymru dri lle i’r deunawfed safle yn y tabl.