Mae Clwb Pel-Droed Rangers wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr gan olygu bod y clwb wedi colli deg pwynt.

Yn dilyn hyn, fydd Celtic ar 65 o bwyntiau, a Rangers dal yn ail yn y gynghrair ar 51 o bwyntiau. Mae Motherwell yn drydydd gyda 42 o bwyntiau.

Mae’r clwb wedi penodi cwmni Duff and Phelps o Lundain fel gweinyddwyr.

Daw’r camau diweddaraf ar ol i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) fethu yn eu cais i benodi eu gweinyddwyr eu hunain.

Roedd perchennog y clwb Craig Whyte wedi cadarnhau ddydd Llun eu bod yn bwriadu penodi gweinyddwyr.

Roedd Rangers wedi disgwyl gwneud penderfyniad o fewn deg diwrnod, ond mynnodd HMRC fod yn rhaid iddyn nhw weithredu yn syth.

Cyflwr bregus Glasgow Rangers

“Mae hyn yn amlwg yn sefyllfa sy’n peri gofid i bawb sy’n ymwneud a phêl-droed yn yr Alban,” dywedodd Shona Robson, Gweinidog Chwaraeon y Llywodraeth yn Holyrood.

“Pêl-droed yw ein gem genedlaethol a thasg y gweinyddwyr fydd i ddatblygu’r broses o asesu’r busnes a sicrhau canlyniad sydd yn niddordebau gorau’r clwb, ei gweithlu, ei chefnogwyr a’r gêm bêl-droed yn gyffredinol yn yr Alban.”

Ac mae Heddlu Strathclyde wedi rhybuddio bydd rhaid gohirio gêm Rangers yn erbyn Kilmarnock ar y penwythnos os na all y clwb dalu costau’r heddlu.

Mae HMRC yn honni nad yw’r clwb wedi talu digon o dreth.

Mae’r HMRC yn hawlio £49m yn yr achos, ond mae Craig Whyte, perchennog Rangers, wedi dweud y gallai’r swm gyrraedd £75m.

Y teitl o fewn gafael Celtic

Yn dilyn y newyddion, mae Paddy Power wedi cadarnhau wrth Golwg 360 eu bod yn barod i dalu unrhyw un a fetiodd ar Celtic  i gipio’r teitl, a hynny tra bod 12 gêm yn weddill yn y tymor.

“Mae’r newyddion sy’n dod o Ibrox yn anffodus nid yn unig i gefnogwyr Rangers ond i holl gefnogwyr yr SPL,” dywedodd Paddy Power mewn datganiad.

“Bydd dirwy deg pwynt yn diweddu’r ras am y teitl a’r holl gyffro sy’n mynd gyda hynny.”

Wythnos diwethaf roedd Paddy Power yn cynnig 1/8 ar Celtic i ennill y teitl. Yn dilyn y newyddion mae Celtic yn 1/25 i unrhyw un sydd a’r awydd i fetio ar ganlyniad go ddiogel.

Mae Rangers yn 8/1 i ennill y teitl, o’i gymharu gyda 9/2 wythnos diwethaf, pan oedd y clwb o Ibrox pedwar pwynt tu ôl i’r tîm o Celtic Park.