Mae disgwyl i brif hyfforddwr y Gweilch adael y clwb, yn ôl rhai adroddiadau heddiw.

Mae’n debyg bod Sean Holley wedi penderfynu na fydd yn llofnodi cytundeb newydd gyda’r clwb.

Os ydy’r adroddiadau’n wir, yna fe fydd yn newyddion drwg i’r Gweilch, yn dilyn y cyhoeddiad bod Scott Johnson, cyfarwyddwr hyfforddi’r Gweilch, yn gadael ar ddiwedd y tymor.

Holley oedd dirprwy Lyn Jones pan gafodd y rhanbarth ei ffurfio yn 2003.

Mae ganddo ddwy flynedd a hanner ar ôl ar ei gytundeb presennol, ond yn ôl un adroddiad fe fydd yn gadael y clwb heddiw, yn dilyn trafodaethau gyda’i gyfreithwyr.

Dim cyfle i ddilyn Scott Johnson

Roedd Holley wedi awgrymu ar ddechrau’r flwyddyn bod ganddo ddiddordeb mewn cymryd rôl Johnson fel Cyfarwyddwr Hyfforddi.

Mae’r Gweilch yn ail yn y Gynghrair RaboDirect Pro 12 ar hyn o bryd, ac yn cael canlyniadau derbyniol.

Serch hynny, mi fydd yna ofid ymysg cefnogwyr y Gweilch, gan fod nifer fawr o chwaraewyr mwyaf blaenllaw’r rhanbarth wedi gadael y clwb yn y flwyddyn ddiwethaf.

Hanner y Llewod wedi mynd

Mae deg chwaraewr wedi cynrychioli Llewod Prydain ac Iwerddon tra’n chwarae i’r Gweilch.

O’r rhain, dim ond pedwar sydd yn dal i chwarae i’r clwb.

Roedd Brent Cockbain wedi ymddeol yn 2010, ac mae Shane Williams wedi ymddeol yn ddiweddar, i gymryd rôl hyfforddi gyda’r Gweilch.

Ond ymysg y Llewod sydd wedi gadael y Gweilch mae Gavin Henson, Lee Byrne, Mike Phillips a James Hook, rhai o’r chwaraewyr Cymreig mwyaf addawol yn hanes y clwb.

Ac er bod Ryan Jones, Alun Wyn Jones, Adam Jones a Tommy Bowe yn dal i chwarae gyda’r Gweilch, bydd y sïon diweddaraf yn peri gofid i’r cefnogwyr rygbi sy’n mynychu Stadiwm y Liberty.

Doedd y Gweilch ddim yn fodlon gwneud unrhyw sylw ar y mater wrth Golwg360 ar hyn o bryd.