Gohebydd CPD Wrecsam Huw Ifor, sy’n egluro sut y methodd Keates ag achub Wrecsam yn eu gêm yn erbyn Forest Green neithiwr…

Ar y penwythnos yr oedd Forest Green yn ceisio curo Casnewydd. Ofer oedd eu hymdrechion er eu bod yn chwarae yn erbyn 10 dyn am gyfnod hir wedi i Yakubu ei yrru oddi ar y maes.

Dim ond 8 gôl maen nhw wedi eu sgorio yn eu 10 gêm ddiwethaf felly’r tîm olaf yr oeddynt am eu hwynebu oedd amddiffyn gorau’r wlad.

Wrth edrych ymlaen at y gêm hon roedd amheuaeth am ffitrwydd llawer o’r chwaraewyr yn enwedig ymosodwyr. Roedd Danny Wright wedi anafu ei ysgwydd, llinyn y gar yn boendod i Speight, Pogba a Cizzy yn sal, a Morrell a Little yn henoed sydd angen cael seibiant bob hyn a hyn.

Rhaid diolch i’r duwiau pêl-droed  am roi Jay Colbeck ac Obi Anouro i ni ddydd Sadwrn – sgoriodd Obi gôl a gafodd ei gwrthod am ei fod wedi amharu ar y golwr a sgoriodd Colbeck ddwy gôl sydd wedi codi calon ni’r cefnogwyr.

Mae Obi wedi dangos gyda chlybiau eraill  ei fod yn gallu sgorio ond heb wneud hynny eto mewn crys coch. Mae Colbeck wedi sgorio yn rheolaidd ers iddo chwarae yn nhîm dan 12 Wrecsam, mae’n chwarae orau yn y rol ‘Paul Scholes’ neu ‘Lee Fowler’ os mynwch chi, ble mae’n sgorio wrth ddod o ganol cae.

Wrecsam yn wael

Yn anffodus pan mae tîm ar rediad gwael mae’n rhaid i un tîm fod ar ddiwedd y rhediad hwnnw, Wrecsam oedd y rheini neithiwr. Roedd Wrecsam yn wael iawn yn yr hanner cyntaf a dylai Forrest Green fod wedi bod ar y blaen ar yr hanner. Fel yr oedd pethau fe ddisgwylion nhw 3 munud i mewn i’r ail hanner a sgoriodd Matty Taylor gyda sodliad beiddgar.

Cafodd Wrecsam gyfleoedd i ddod yn ôl i’r gêm ond yr oedd ein cyn golwr Sam Russell yn wych. Daeth Cizzy yn agos yn yr ail hanner wedi taro’r bêl o 20 llath yn erbyn y trawst.

Yn y funud olaf fe loriwyd Morrell yn y cwrt cosbi ac yn ddewr wedi methu wythnos diwethaf fe gamodd Keates ymlaen, yn anffodus fe fethodd eto, a chanlyniad hynny ydy bod Fleetwood bellach ar y brig.

Gobeithio y gallwn hel digon o egni i guro Caerfaddon ddydd Sadwrn ac yna bydd gennym bythefnos i argyfnerthu’r garfan yn barod at ddiwedd y tymor, gobeithio y gallwn gadw’r garfan gyda’i gilydd ac efallai ychwanegu rhyw ddau chwaraewr i roi opsiynau ychwanegol i ni. Beth sy’n bwysig yw nad yw neb yn cychwyn cynhyrfu.