Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi dweud wrth golwg360 y bydd yn rhaid i’r chwaraewyr “chwilio am rywbeth arall” i’w codi ar gyfer eu gêm gyntaf ddydd Sadwrn (Mehefin 20, 12.30yp) gan na fydd cefnogwyr yn gallu bod yn bresennol.

Mae e wedi bod yn cynnal cynhadledd i’r wasg dros Zoom ar drothwy’r gêm.

Mae’r Elyrch yn teithio i Middlesbrough ar gyfer eu gêm gyntaf ers i bêl-droed ddychwelyd ar ôl cyfnod y coronafeirws, ond fydd y ‘Jack Army’ ddim yn gallu bod yno hyd nes y bydd modd i gefnogwyr fynd i gemau eto – pryd bynnag y bydd hynny.

Yn ôl adroddiadau, y bwriad yw chwarae sŵn torf dros uchelseinydd yn y stadiwm, fel oedd wedi digwydd yng ngemau cyntaf Uwch Gynghrair Lloegr neithiwr.

“Mae’n rhaid iddo ddod o’r tu mewn i ni,” meddai Steve Cooper yn ei gynhadledd gyntaf ers tri mis.

“Ac yn enwedig gan y chwaraewyr ar y cae, mae’n rhaid iddyn nhw wthio ei gilydd.

“Oherwydd fydd pob sŵn ar y cae yn uwch nag arfer, yn cael ei deimlo mwy a’i glywed mwy, rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n fwy dylanwadol na’n gwrthwynebwyr.

“Ry’n ni wedi bod yn trafod creu ein hawyrgylch ein hunain ar y cae a sut olwg fydd ar hynny, a dyna un neu ddau o’r pethau dw i wedi bod yn eu dweud.”

Teithio’n bell

Tra bod cyfyngiadau tynn o hyd yng Nghymru ar ba mor bell all pobol deithio, mae’r cyfyngiadau wedi’u llacio ymhellach yn Lloegr.

Ond wrth ddechrau chwarae eto, mae gan Abertawe un o’r pellteroedd mwyaf o dde Cymru i ogledd-ddwyrain Lloegr.

“Mae’n eironig, yn fwy na dim,” meddai Steve Cooper.

“Fe wnawn ni fwrw ati, oes dim problem, fe wnawn ni beth bynnag mae’n ei gymryd i fod yn llwyddiannus, wnawn ni ddim gadael i unrhyw beth sefyll yn y ffordd.

“Does yna’r un aelod o staff na chwaraewr ar y cae ymarfer sy’n meddwl am orfod mynd yr holl ffordd i’r gogledd.

“Mae pawb ar y cae ymarfer yn meddwl am fynd i’r gêm ddydd Sadwrn, a’n bod ni’n ysu am gael dechrau.”

Pwyslais ar y gymuned

Gyda chymaint o bwyslais ar y gymuned a’r berthynas rhwng y chwaraewyr a’r cefnogwyr, mae Steve Cooper yn cyfaddef fod y misoedd diwethaf heb allu cyfathrebu yn y ffordd arferol wedi bod yn anodd.

“Ond mae hynny’n wir am lawer o dimau cymunedol,” meddai.

“Gall clybiau pêl-droed fod yn rhan greiddiol o’r gymuned.

“Dw i’n gwybod fod y clwb hwn yn un ohonyn nhw, a dyna’n sicr rydyn ni am iddo fe fod hefyd.

“Ry’n ni wedi gwneud cymaint â phosib o ran siarad â chefnogwyr a darganfod mwy am rai sydd wedi’i chael hi’n anodd a chynnig cefnogaeth iddyn nhw gorau gallwn ni.

“Dyna pam ddywedais i mewn cyfweliad yn gynharach yr wythnos hon ei bod hi’n bwysig i ni ddechrau eto, oherwydd mae pêl-droed yn rhan mor bwysig o fywydau cynifer o bobol, ac mae gweld eu tîm yn gwneud yn dda yn golyg tipyn i lawer o bobol.

“Mae gyda ni lot o gefnogwyr yn Abertawe lle mae hynny’n wir.

“Roedden ni i gyd yn ysu am ddechrau’n gyflym eto am y rheswm hynny.

“Felly rydyn ni i gyd yn anelu at gael cefnogwyr yn ôl i’r stadiwm ac o feddwl am ein stadiwm ni a’r caneuon mae’r cefnogwyr yn eu canu, mae’n unigryw yma felly byddwn ni’n gweld eisiau hynny ond pan ddaw’r amser eto, byddwn ni’n ei werthfawrogi hyd yn oed yn fwy nag ydyn ni ar hyn o bryd.”