Fe fyddai Morgannwg wedi bod yn chwarae yn Trent Bridge yr wythnos hon pe bai’r tymor criced wedi gallu mynd yn ei flaen ond yn sgil y coronafeirws, fe fu cyfle i edrych yn ôl dros rai o gemau’r gorffennol.

Nid un gêm benodol rhwng Morgannwg a Swydd Nottingham sydd dan sylw yn y darn diweddaraf yma, ond hanes gelyniaeth rhwng Wilf Wooller a Reg Simpson dros nifer fawr o flynyddoedd.

Yn 1951, yn ystod tymor cyntaf Simpson yn gapten ar y Saeson, fe lwyddodd Wooller, y Cymro o Landrillo yn Rhos, i ypsetio’i wrthwynebydd yn lân yn ystod brwydr dactegol wnaeth droi’n un oedd yn gwbl groes i ysbryd y gêm.

Gyda’r dorf gartref o 10,000 wedi troi ar eu tîm eu hunain, fe wnaeth Simpson benderfynu bowlio, ond fe aeth yn ei flaen i fowlio dan y fraich i arafu gêm oedd eisoes yn anfon y cefnogwyr i drwmgwsg.

Llwyddodd Morgannwg, serch hynny, i gyrraedd 212 am bedair cyn i Wooller ei hun ddod i’r llain. Ac os oedd y gêm eisoes yn araf, roedd y capten yn benderfynol o’i harafu hi ymhellach i fynd dan groen ei wrthwynebydd. Batiodd e a Willie Jones am bymtheg pelawd a sgorio 12 rhediad.

Fe geisiodd Simpson annog Wooller i fynd amdani gan fowlio un belen lac ar ôl y llall, ond ergydion amddiffynnol chwaraeodd hwnnw bob tro, gyda’r batiwr yn esgus sychu’r chwys oddi ar ei dalcen rhwng pelenni.

Wrth i Forgannwg fowlio, fe wnaeth pob un o’r chwaraewyr ar y cae – gan gynnwys y wicedwr Haydn Davies – droi eu breichiau drosodd am ychydig. Dyma’r unig dro erioed i’r wicedwr fowlio yn ystod ei yrfa – ac fe gipiodd e wiced!

Cyfarfod

Fe wnaeth pwyllgor Clwb Criced Swydd Nottingham gwrdd ar ôl y gêm ond yn gwbl ryfeddol, doedd y mater ddim ar yr agenda, a doedd dim sôn am y gêm.

Roedd Simpson yn honni bod tactegau Morgannwg yn ffars, a’i fod yntau am dalu’r pwyth yn ôl.

Goruchafiaeth

Bu’n rhaid i Reg Simpson aros 30 o flynyddoedd i gael dial yn iawn ar Wilf Wooller.

Erbyn hynny, roedd Simpson yn gadeirydd ar Nottingham, wrth iddyn nhw wynebu Morgannwg mewn gêm lle byddai buddugoliaeth yn cipio Pencampwriaeth y Siroedd iddyn nhw.

Roedd Simpson yn ei ddagrau wrth i Malcolm Nash fowlio pelen anghyfreithlon i ddod â’r gêm i ben, ac yntau ond yn naw oed pan gipion nhw’r Bencampwriaeth y tro blaenorol yn 1929.

Gelyniaeth gynnar hirdymor

Yn 1953, roedden nhw wrthi eto, wrth i Forgannwg fatio am ddiwrnod cyfan a sgorio 254-5 ar lain ffafriol i’r batwyr – ac fe ymatebodd Simpson gyda 124 mewn dros dair awr y diwrnod canlynol.

Ar ôl chwarae yno am y tro cyntaf yn 1922, fe gymerodd 31 o flynyddoedd i Forgannwg ennill gêm yn Trent Bridge. Ond ar ôl 1953, roedd y Saeson yn waglaw yn erbyn y Cymry yn y Bencampwriaeth am 26 o flynyddoedd, cyn i Richard Hadlee, un o fawrion Seland Newydd, gipio saith wiced am 28 yn 1979.