Mae UEFA wedi cadarnhau mai’r 12 dinas gwreiddiol fydd yn dal i lwyfannu gemau Ewro 2020, a fydd yn dechrau ar 11 Mehefin 2021.

Mae hyn yn golygu mai Baku a Rhufain fydd y tripiau i gefnogwyr Cymru yn 2021, fel oedd y bwriad gwreiddiol. Mae’r gemau fel a ganlyn: Y Swistir yn Baku ar 12 Mehefin, Twrci yn Baku ar 16 Mehefin, a’r Eidal yn Rhufain ar 20 Mehefin.

Bydd y gemau cymhwyso sy’n weddill ar gyfer y twrnament yn cael eu cynnal ar 8 Hydref a 12 Tachwedd eleni

Dywedodd Llywydd UEFA Aleksander Ceferin: “Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu ailgydio [yn ein cystadlaethau]. Rwy’n hyderus na fydd yn rhaid inni ddioddef absenoldeb y cefnogwyr am yn hir, ac y cânt eu caniatáu i ddod i’r stadia yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

“Cymerodd UEFA benderfyniad beiddgar i ohirio EURO 2020. Wrth wneud hynny, fe wnaethon ni greu amser i gystadlaethau clybiau domestig ar draws y cyfandir allu ailddechrau, lle bo’n bosibl, a dod i derfyn.

“Er bod y gêm wedi dioddef anawsterau enfawr o ganlyniad i’r pandemig, byddai’r ergydion hynny wedi bod yn galetach pe na baem wedi dangos arweinyddiaeth yn y dyddiau cynnar hynny.”

Cynghrair y Cenhedloedd

Mae UEFA hefyd wedi cadarnhau y bydd Cynghrair y Cenhedloedd yn mynd yn ei blaen ar y dyddiadau gwreiddiol fel y bwriadwyd. Mae gemau Cymru fel a ganlyn:

Medi 3: Y Ffindir v Cymru
Medi 6: Cymru v Bwlgaria
Hyd 10: Rep Iwerddon v Cymru
Hyd 13: Bwlgaria v Cymru
Tach 13: Cymru v cynrychiolydd Iwerddon
Tach 16: Cymru v Y Ffindir