Proffil Twitter capten Cymru, Aaron Ramsey
Pwy sy’n cyrraedd XI cyntaf trydarwyr pêl-droed Cymru – Caio Higginson ac Owain Schiavone sy’n dewis y tîm.
Mewn oes lle mae athletwr proffesiynol yn gallu cyfathrebu’n uniongyrchol gyda’r byd trwy ddefnydd cyfryngau cymdeithasol, mae un clwb pêl-droed o Fecsico wedi ceisio dull anarferol o gynyddu eu dilyniant Twitter.
Yn hytrach nag argraffu enwau eu chwaraewr ar gefn eu crysau, mae clwb pêl-droed Jaguares, wedi dodi dolenni Trydar y chwaraewyr ar gefn eu crysau.
Dyma ymgais Golwg360 felly i greu tîm cenedlaethol Cymru ar sail perfformiad y chwaraewyr ar Twitter.
1. @greathover32 – Does gan Wayne Hennessey ddim cyfrif tra bod y cyfrif @boazmihillHCFC yn ymddangos i fod yn un ffug, felly Jason Brown o Aberdeen sy’n cael ei le yn gôl.
2. @jazzrichards – ychydig o amddiffynwyr Cymru sy’n trydar yn anffodus, felly mae cyfle i amddiffynnwr Ifanc Abertawe, a chapten tîm dan 21 Cymru, Jazz Richards
3. @Chrisgunter16 – Mae cefnwr Nottingham Forrest yn drydarwr rheolaidd ac felly’n cadw ei le fel cefnwr chwith.
4. @AshWills84 – Un o’r chwaraewyr cyfredol prysuraf ar Twitter, felly’n graig yng nghanol yr amddiffyn.
5. @25davidstephens – Does dim golwg o’r ddau Collins, Darcy Blake na Danny Gabbidon ar Twitter felly David Stephens ifanc o Hibernian sy’n cael ei gyfle wrth ochr Williams yng nghanol yr amddiffyn.
6. @DaveEdwards4 – wedi cael digon o amser i drydar wrth wella o anaf hirdymor ac yn cael ei le yng nghanol cae.
7. @joe16led – heb gael llawer o lwc gyda Celtic nac anafiadau’n ddiweddar felly bydd Joe Ledley’n falch o gael ei le yn ein XI ar draul @Joe_Allen1 sydd wedi cloi ei gyfrif!
8. @Hal_RK – mae Hal Robson Kanu yn cael ei le yn nhîm Reading eleni ac yn ennill ei le yn nhîm Trydar Cymru hefyd.
9. @churchy18 – Mae Simon Church yn bartnar i @Hal_RK yn nhím Reading ac yn dipyn o fêts gydag ‘e ar Twitter hefyd.
10. @aaronjramsey – un lled ddiweddar i Twitter ydy capten Cymru ond mae ei drydar wedi bod yn prysuro dros yr wythnosau diwethaf.
11. @RobertEarnshaw – bron i 2000 o negeseuon hyd yn hyn ac yn cael ei le yn yr ymosod cyn @stevemorison sydd heb drydar eto a @bellamyofficial sydd heb ddangos digon o ymroddiad gyda dim ond dwy neges hyd yn hyn
Eilyddion: @DavidCornell27, @Joe_Allen1; @Jack_Collison; @OwainTJones, @stevemorison – bydd angen i Collison, Morison a Jones drydar o leiaf unwaith cyn cael eu hystyried yn y tîm nesaf
Hen Stejars: @JohnHartson10, @RobbieSavage8, @carlrobinson33 – trwy lwc, mae digon o chwaraewyr ifanc yn trydar sy’n golygu nad oes rhaid troi at chwaraewr canol cae y New York Bulls, Carl Robinson!
Hyfforddwr: @raymondverheije – yn anffodus, does dim cyfrif swyddogol gan Gary Speed ar Twitter eto, felly ei ddirprwy, ac un o’r trydarwyr mwyaf dryslyd, Raymond Verheije sydd yng ngofal y tîm.
Ydan ni wedi methu rhywun? Oes digon o’r hen fois yn Trydar i greu tîm pump bob ochr? Croeso i chi adael sylwadau isod.