Plymouth
Mae cyn chwaraewr canol cae Cymru, Carl Fletcher wedi ei benodi yn rheolwr llawn amser ar glwb pêl droed Plymouth Argyle.
Fe ymunodd Fletcher, 31 oed, a Argyle am gyfnod benthyg o fis yn wreiddiol yn Chwefror 2009. Wedi sgorio yn ei gêm gyntaf dros y clwb, fe arwyddodd gytundeb llawn amser a hwy wedi iddo gael ei ryddhau gan Crystal Palace ar ddiwedd tymor 2009-2010.
Cymerodd Fletcher yr awenau am gyfnod wedi i’r rheolwr, Peter Reid, adael y clwb ym mis Medi. Mae Plymouth Argyle wedi cael trafferthion ariannol yn ddiweddar, ond mae’n debyg iddyn nhw ddod allan o ddwylo’r gweinyddwyr o dan berchnogion newydd.
Mae hyn, ynghyd a gwelliant yn eu perfformiadau ar y cae, wedi arwain at benderfyniad Carl Fletcher i dderbyn y swydd o chwaraewr-reolwr yn barhaol. Fe fydd golwr Argyle, Romain Larrieu, yn is-hyfforddwr iddo.
Mae Plymouth Argyle yn eistedd ar waelod Ail Adran Lloegr a nod Fletcher fydd sicrhau eu bod yn parhau yng nghynghrair pêl droed Lloegr ar ddiwedd y tymor.