Joe Allen - dechrau cipio'r penawdau
Wedi bod yn benwythnos da i’r Cymry yn yr Uwch Gynghrair yn ôl Owain Schiavone.

Gan anghofio am ymddangosiad Gareth Bale mewn crys glas tîm Prydeinig … am benwythnos gwych i chwaraewyr Cymru yn yr Uwch Gynghrair.

Sgoriodd Bale ddwy gôl wych wrth i Spurs guro QPR o 3 – 1 bnawn ddoe.

Mae’r asgellwr wedi cael dechrau digon tawel i’r tymor o’i gymharu’r impact roedd wedi cael ar y gynghrair ac ar Ewrop tua’r adeg hyn llynedd.

Er ei fod wedi bod ar dân i Gymru yn y pedair gêm ddiwethaf, nid yw wedi llwyddo i danio cystal yng nghrys gwyn Spurs, ond heb os roedd yn un o’r sêr mwyaf disglair ar y cae ddoe mewn perfformiad disglair iawn gan dîm Harry Redknapp.

Rhediad da Ramsey

Roedd yn benwythnos da iawn i gapten Cymru, Aaron Ramsey hefyd wrth i Arsenal sicrhau buddugoliaeth gofiadwy o 5 – 3 yn y gêm ddarbi yn Chelsea.

Er mai hattrick Robin Van Persie oedd yn llenwi penawdau’r papurau dydd Sul, roedd sawl un yn tynnu sylw at gyfraniad y Cymro a rhai wedi ei enwi’n seren y gêm.

Mae Ramsey ar rediad da yn nhîm Arsenal, ac mae wedi dod yn fwyfwy i sylw’r cyfryngau ers sgorio gôl fuddugol Arsenal yn y funud olaf yn erbyn Marsaille yng Nghynghrair y Pencampwyr wythnos diwethaf.

Yn ôl Arsene Wenger, mae Ramsey bron iawn yn ôl i’w orau ar ôl cyfnod hir yn gwella o’r anaf erchyll a gafodd flwyddyn a hanner yn ôl.

Cofiwch chi, dwi ddim yn siŵr os ydy’r darn o gelf mae’r Cymro ifanc wedi bod yn prysur ddatblygu ar ei goes chwith dros y misoedd diwethaf yn gymorth neu beidio.

Allen yn allweddol

Un arall sydd wedi dechrau dal sylw’r wasg a chyfryngau ar lefel Prydeinig (o’r diwedd!?) ydy Joe Allen o Abertawe.

Fe sgoriodd Allen ei ail gôl mewn dwy gêm gynghrair yn olynol ym muddugoliaeth Abertawe yn erbyn Bolton ddydd Sadwrn, ac roedd yn rhannu penawdau adroddiadau’r gêm gyda Danny Graham ddoe.

Mae cefnogwyr Abertawe wedi bod yn sôn am y boi yma ers blynyddoedd, tra bod cefnogwyr Cymru wedi deffro i’w botensial yn dilyn perfformiadau effeithiol iawn yn erbyn Y Swistir a Bwlgaria ddechrau’r mis.

Erbyn hyn mae dechrau creu argraff y tu hwnt i Glawdd Offa, The Independent on Sunday yn un o’r rhai i’w enwi’n seren y gêm.

Yn sicr mae’n mynd i fod yn chwaraewr allweddol i Abertawe wrth iddyn nhw geisio cadw ei lle yn yr Uwch Gynghrair eleni.

Morison

Fis yn ôl, do’n i ddim yn rhy siŵr o Steve Morison fel ateb i broblemau Cymru yn arwain y llinell flaen, ond roedd ei berfformiad yn erbyn Y Swistir yn un arbennig o dda.

Mae’r ymosodwr mawr yn dechrau sefydlu ei hun yn nhîm Norwich, ac fel chwaraewr yn yr Uwch Gynghrair.

Sgoriodd Morison ei drydedd gôl o’r tymor i Norwich bnawn Sadwrn, wrth iddyn nhw gipio pwynt yn erbyn Blackburn i’w cadw’n hanner uchaf yr Uwch Gynghrair.

Mae cynnydd Morison yn y gêm wedi bod yn anhygoel – dim ond ers tair blynedd mae wedi bod yn chwarae yng Nghynghrair Lloegr o gwbl, a dim ond gwella ymhellach y bydd yn gwneud o chwarae’n rheolaidd yn yr Uwch Gynghrair.

Yr unig beth sy’n fy mhoeni i am Morison ydy mai 5 ydy’r rhif carfan sydd ganddo yn Norwich – tydi’r peth ddim yn naturiol i ymosodwr siŵr!