Gareth Bale mewn crys hyfforddi Cymru!
Owain Schiavone sy’n trafod y cecru sydd wedi ailgydio ynglŷn a’r tîm pêl-droed Prydeinig yn y Gemau Olympaidd blwyddyn nesaf.
Wythnos diwethaf fe ryddhawyd lluniau o seren tîm pêl-droed Cymru, Gareth Bale, yn gwisgo crys pêl-droed Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Dim ond crys cefnogwyr oedd hwn gan gwmni Adidas, yn hytrach na’r crys fydd yn cael ei ddefnyddio gan y tîm yr haf nesaf – bydd hwn yn cael ei ryddhau rhywdro yn y flwyddyn newydd mae’n debyg.
Er hynny, mae wedi bod yn ddigon i gorddi’r dyfroedd unwaith eto ynglŷn â’r ddadl dros ac yn erbyn cael tîm pêl-droed Prydeinig yn y gemau blwyddyn nesaf.
Yn y gornel goch…
Mae Cymdeithasau pêl-droed Cymru, Yr Alban ac Iwerddon wedi datgan yn glir eu bod yn erbyn yr egwyddor, ac mae llywydd y Gymdeithas Gymreig, Phil Pritchard wedi ategu hynny ers i’r llun o Bale ymddangos, gan ddatgan ei siom am y llun hefyd.
Mae tipyn o anghytuno am y mater ymysg cefnogwyr Cymru hefyd. Mae ymddangosiad y llun wedi arwain at drydar gwyllt tra bod rhaid i Dylan Jones ymdebygu i ddyfarnwr bocsio wrth i’r sylwebyddion Gary Pritchard ac Iwan Arwel ddadlau am y peth ar raglen Ar y Marc fore Sadwrn.
Yn bersonol, dwi’n deall uchelgais chwaraewyr gwych fel Bale ac Aaron Ramsey i chwarae ar y lefel uchaf o bêl-droed – wrth gwrs fy mod i, mae unrhyw chwaraewr eisiau cyrraedd y lefel uchaf posib.
Beth dwi’n methu ei ddeall ydy pam yn y byd felly fydden nhw eisiau gwastraff eu hamser yn cymryd rhan yn nhwrnament bêl-droed y Gemau Olympaidd!?
Digwyddiad ymylol iawn ydy’r gystadleuaeth bêl-droed yn y Gemau Olympaidd- y trac athletau ydy prif ffocws y gemau, tra bod i felodrôm seiclo a’r pwll nofio hefyd yn uchafbwyntiau i’r rhan fwyaf.
Dwi’n foi ffwtbol, ond fedra i’n onest ddim dweud wrthoch chi pwy enillodd aur ar y maes pêl-droed yn Beijing yn 2008.
Wedi dweud hynny, dwi’n cofio fod Usain Bolt wedi dod cipio sylw’r byd ar y trac, dwi’n cofio gorchestion Chris Hoy yn y felodrôm…a dwi hyd yn oed yn cofio enw Michael Phelps fel yr un a greodd y penawdau yn y pwll nofio!
Uchelfan pêl-droed? Dim gobaith
Tydi’r pêl-droed jyst ddim yn bwysig yng nghyd destun y Gemau Olympaidd, a’r hyn sy’n fy siomi braidd gan Bale a Ramsey ydy eu diffyg uchelgais trwy roi gymaint o bwyslais ar fod eisiau cymryd rhan.
Nid yw’r Gemau Olympaidd yn agos at fod yn un o uchafbwyntiau’r byd pêl-droed – Cwpan y Byd, Pencampwriaethau Ewrop a Chynghrair y Pencampwyr ydy’r lefel uchaf y dylai chwaraewyr ifanc Cymru dargedu.
Mae Bale a Ramsey wedi bod yn ddigon lwcus i gystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr yn barod – dylen nhw fod yn canolbwyntion felly ar gyrraedd y ddwy gystadleuaeth arall uchod, a dim ond gyda Chymru maen nhw’n gallu cyflawni hynny.
I bob pwrpas, cystadleuaeth ieuenctid ydy’r gystadleuaeth bêl-droed yn y Gemau Olympaidd – twrnament bach i chwaraewyr dan-23 gydag ambell hen stejar wedi eu taflu mewn.
Yn ogystal â’r tri cystadleuaeth dwi eisoes wedi’i nodi, mae Uwch Gynghrair Lloegr yn lwyfan pwysicach i bêl-droediwr na’r Gemau Olympaidd.
Bydd gêm bêl-droed olaf y Gemau Olympaidd yn cael ei chwarae ar 11 Awst – wythnos cyn i gemau’r Uwch Gynghrair ddechrau. Dwi’n synnu’n fawr nad yw’r rhan fwyaf o reolwr yr Uwch Gynghrair wedi mynegi pryder am hyn, yn yr un modd ag y mae Malky Mackay o Gaerdydd wedi gwneud.
Un peth ddywedodd Gary Pritchard ar Ar y Marc, oedd fod hyn y gyd yn ‘PR gwych’…a do’n i heb ystyried hynny’n iawn ynghynt.
Heb os mae’r holl drafod a dadlau’n codi proffil y gystadleuaeth bêl-droed yn y Gemau Olympaidd, a bydd hynny’n hwb i werthiant tocynnau mae’n siŵr.
Mae’n dod yn fwy fwy amlwg mai stunt PR glyfer ydy’r holl fater a fod trefnwyr Llundain 2012 am i’r trafod a dadlau barhau. Fel arall, petai nhw wir am geisio meddalu rhywfaint ar agwedd y gwledydd Celtaidd a’u cefnogwyr, does bosib na fydden nhw wedi penodi’r Sais, Stuart Pearce i reoli’r tîm gan droi at y Gwyddel Martin O’Neill neu’r Cymru Mark Hughes yn ei le?