Yn ôl gohebydd CPD Caerdydd, Dafydd Wyn Williams, fe roddodd Joe Mason hunllef Galan Gaeaf i amddiffyn Leeds bnawn ddoe.
Bron i ugain mlynedd yn ôl, enillodd tîm gweithgar, effeithiol Leeds United y brif bencampwriaeth yn Lloegr gydag enwau cyfarwydd megis Whyte, Fairclough, a Steve Hodge yn cefnogi’r ‘cewri’ canol cae Strachan a McAllister i dywys y tîm i’w coron hollbwysig.
Oherwydd eu bod wedi chwarae Manchester United yn y gwpan FA a’r cwpan cynghrair dros ddau gymal, roedd yna gyfle i bawb gwylio eu harddull effeithiol, egnïol ar y bocs yn y dyddiau pan taw bocs ac nid panel oedd yng nghornel y lolfa. Ysbrydol ydoedd efallai o ran egni ond nid o ran arddull bob tro; ond pa ots? Nid oes yna’r un tim o Swydd Efrog yn yr Uwchgynghrair erbyn hyn, cam mae’r tim presennol yn y gwyn yn ceisio newid.
Mae llawer iawn wedi newid dros y blynyddoedd ers 1992, ond mae disgwyliadau Elland Rd heb; man lleia y ma nhw’n disgwyl bod eu tim yn llawn egni ac ymdrech.
Mae’n debyg nad yw Leeds wedi curo Caerdydd dros yr ugain mlynedd diwethaf, ac mae’r gemau diweddar wedi bod yn glod i’r Gleision: cyn Dydd Sul, doedd Leeds heb sgorio yn y pedwar gem olaf adre, dros chwe blynedd. A 0-4 oedd y canlyniad llynedd wrth i Chopra a’r gweddill mwynhau eu hunain oddi cartref. Wrth gwrs, mae o leiaf 10 chwaraewr newydd yn trio plethu i’n tim ni erbyn hyn. Un dyn sy’n gyfarwydd i bawb ar gaeau Lecwydd yw’r cawr i Gaerdydd McPhail, 400fed gem ef ydoedd ddoe.
‘O’ Dea’ yn wir’
Ar ôl hanner cyntaf le naeth O’Dea gymaint o gawl o glirio’r bel fel bod yna reswm digonol i’r Saeson ynganu ei enw yn union fel mae’n edrych, fe ddaeth y chwaraewyr o’r tim 20 mlynedd yn ôl i’r maes i ddwyn clod o’r dorf yn ystod yr egwyl, gan atgoffa’r dorf bod yna gagendor eang rhwng eu gallu nhw a Pugh, ie Pugh, Snodgrass, McCormack; Howson, Clayton, a Lees sef eu chwaraewyr ar y cae nawr, megis Camberwell Green modern (darllenwch hi to, gyda rhythm!).
Yn sicr roedd O’Dea yn symud fel pyped pren pan sgoriodd yr arian byw Joe Mason ar ôl cipio’r bel oddi wrtho gyda rhyw fymryn o wthiad yn ei gefn. Wedi’r gêm dwedodd rheolwr Leeds Simon Grayson bod O’Dea dal i deimlo effaith cnoc ar ei ben o’r gêm dwetha; os hynny pam peryglu’r tim trwy chwarae? O’ Dea’ yn wir. Nid uchafbwynt y dyn ar fenthyg o Celtic ydoedd, gwell hela fe nol falle yr wythnos hon?
Wedi dweud hynny, Leeds United dechreuodd y gêm yn gryfach, yn gyntaf. Marshall yn gorfod dal pêl daeth o Keogh tuag at ei darged McCormack; y ddau yn ymdrechu’n galed ac yn benderfynol o brofi’r pwynt bod cyn-chwaraewyr a mantais fawr yn erbyn eu hen dim – gan fod y ddau wedi bod yng Nghaerdydd ers talwm: Keogh ar fenthyg llynedd ond yn fwy adnabyddus, bu Ross McCormack yn chwaraewr tanllyd i’r glas cyn iddo gael ysgytwad o’r gor-sylw daeth ar ei gyfyl yn sgil hynny. Mae yn ôl i’w orau eleni, ar flaen y gad ymysg y sgorwyr uchaf yn y bencampwriaeth.
Roedd peniad, eto o Keogh yn y degfed munud, yn gorfodi Marshall i arbed unwaith yn rhagor, ac er methu dal y bel, cafodd ei glirio. A dyna hanes yr hanner cyntaf i Leeds, Marshall methu a dal yr ergydion ond yn ddigon profiadol i sicrhau bod y bel yn dianc o afael Leeds bob tro.
‘Crefftus’
Wedi chwarter awr, cyfle i Whittingham ddangos ei ddawn Cantona-idd; yn fflicio’r bel i’r ardal beryg, ac O’Dea yn hanner cysgu ac yn hel atgofion o gol enwog Goerg Weah o’u gwrt gosbi ei hunan efallai. Bu yna awgrym o wthiad gan Mason, ond gôl i Gaerdydd oedd y dyfarniad.
Hunlle penwsnos Calan Gaeaf i Leeds felly a 4 gôl mewn 4 gêm i Mason; crefftus tu hwnt yn wir, yn arbennig o ystyried bod Ross McCormack heb sgorio yn ei bedwar gêm ddiwethaf ef.
Er i ymdrechion Leeds barhau tan yr egwyl, yn arbennig o Connolly a McCormack a oedd yn cadw Marshall ar bigau’r draen, ofer bu ymdrechion y gwynion.
Dan bwysau
Wedi’r egwyl, yr un oedd y stori wrth i Leeds barhau i geisio cael y gêm yn gyfartal, fel petaent yn teimlo eu bod wedi cael cam bod Caerdydd wedi sgorio.
Ambell waith, pan mae tîm o dan bwysau fel oedd Caerdydd yn erbyn Leeds, mae’n ddiddorol gweld pwy yw’r dyn sy’n gallu cadw i wneud y pethau syml; megis rhoi pas dechau ymlaen yn hanner y gwrthwynebwyr. I fod yn blwmp ac yn blaen, os nag ych chi’n cyfri tafliadau godidog Gunnarson – sy’n siŵr o gael ei brynu gan Tony Pulis yn Stoke cyn bo hir – nid oedd Caerdydd yn gallu ymosod o gwbl tan ar ôl i Leeds gael eu gôl anochel hwy.
Wedi hanner awr o bwysau cynyddol, gyda chyfleodd pellach i McCormack ac arbediad gwych arall gan Marshall oddi ar beniad Howson, daeth gôl Leeds o sefyllfa ddiddorol; y dyfarnwr fel petai am i’r gêm fynd yn ei blaen wedi sialensiau gwael gan Gunnarson cyn i’r fantais pallu ac felly cic rydd i’r Leeds ( ydw i’n breuddwydio neu ydy’r dyfarnwyr yn llawer mwy tebyg o chwarae mantais ar ol gweld gymaint o rygbi yn cael ei chwarae ym mhen draw’r byd yn ddiweddar?).
Roedd y gic yn dra manteisiol i’r tîm cartref, wrth i Snodgrass goroni gêm dda dros ben gyda gôl yn y cwrt cosbi o gic rydd Kinsboro; un haeddiannol rhaid cyfaddef.
Wrth i’r gêm ddirwyn i ben, roedd Malky yn hen ddigon hapus a phwynt oddi cartre mae’n rhaid.
Gyda llaw, llwyddodd Conway i gwblhau un pas ymosodol (i Miller) yn hanner ei wrthwynebwyr cyn diwedd y gêm, ond erbyn hynny roedd Leeds hefyd yn ymfalchïo mewn gem gyfartal gyda hen ddigon o amddiffynwyr yn eu tir eu hunain, ac felly y bu.
Yn y cyfamser, roedd y dyfarnwr wedi bod yn ddigon call i adael i Gaerdydd gael ychydig o fantais ar ol i McPhail a’i holl brofiad cael ei gicio, ac i fod yn deg i’r ref ni sylwodd pan hedfanodd Clayton (MoM y dydd glywais wedyn, am ei ddawn o hedfan heb adenydd efallai?) trwy gwrt cosbi Caerdydd yn ystod adeg cynta’r gêm…a dim rheswm yn y byd am hynny yn ôl y dyfarnwr. Digon teg te.
Adroddiad Dafydd Wyn Williams