Mae clybiau Uwchgynghrair Lloegr wedi pleidleisio’n unfrydol heddiw (dydd Mercher, Mai 27) i ail-ddechrau hyfforddi ‘â chyswllt’ wrth i “Prosiect Ail-ddechrau” gymryd cam yn ei flaen.

Ar ôl dechrau gyda sesiynau bychan, gydag ymbellhau cymdeithasol mewn grym, derbyniodd chwaraewyr a rheolwyr 20 clwb yr Uwchgynghrair wybodaeth, ddydd Mawrth (Mai 26), ynglyn â dychwelyd i hyfforddi gyda chyswllt.

“Mae cyfranddalwyr yr Uwchgynghrair heddiw wedi pleidleisio yn unfrydol i ailddechrau hyfforddi â chyswllt, gan gymryd cam arall tuag at ailddechrau’r tymor pêl-droed, pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.

“Mae carfanau nawr yn gallu hyfforddi mewn grwpiau yn ogystal â thaclo, ond gan leihau unrhyw gyswllt sydd ddim yn angenrheidiol.

“Blaenoriaeth yr Uwchgynghrair yw iechyd a lles yr holl gyfranogwyr.”

Gemau’n ailddechrau mis Mehefin?

Mae’r Uwchgynghrair “mor hyderus ac y gallwn fod” ynglŷn ag ail-ddechrau’r tymor fis Mehefin, meddai’r prif weithredwr Richard Masters.

Bu i’r Uwchgynghrair gael ei ohirio ar Fawrth 13, a cafodd Mehefin 12 ei nodi fel dyddiad posib i ddychwelyd.

“Mae ychydig o fomentwm. Rydym wedi cymryd y camau cyntaf,” meddai Richard Masters wrth BBC Sport.

“Mae’n wych i bawb, gan gynnwys y cefnogwyr, i weld ein chwaraewyr yn ôl yn hyfforddi.”

Dywed fod rhaid bod yn “hyblyg” wrth drafod dyddiad dychwelyd ac y gallai’r gynghrair ddysgu gan y Bundesliga, sydd eisoes wedi ailddechrau.