Cafodd y Cymro Rabbi Matondo brynhawn digon siomedig wrth i gemau pêl-droed gael eu cynnal unwaith eto yn y Bundesliga, prif gynghrair yr Almaen ddoe (dydd Sadwrn, Mai 16).
Cafodd e gerdyn melyn yn y gêm gyntaf – yn erbyn Borussia Dortmund – ers llacio cyfyngiadau’r coronafeirws yn yr Almaen.
Collodd tîm Schalke o 4-0 oddi cartref wrth i dimau’r Almaen orfod dychwelyd i gaeau heb dorfeydd ar gyfer cam cynta’r adferiad ar ôl y feirws.
Ar y fainc y dechreuodd Rabbi Matondo, ond fe gafodd ei gyfle yn yr ail hanner wrth ddod i’r cae yn lle Benito Raman ar yr egwyl.
Roedd ymosod Schalke wedi bod heb arf finiog yn yr hanner cyntaf, ond prin y cafodd y Cymro gyfle i serennu yn yr ail chwaith.
Cafodd e ambell gyfle, ond prynhawn digon rhwystredig gafodd ei dîm wrth orfod ymdopi ag ymosod Dortmund.
Penllanw rhwystredigaeth y Cymro oedd y cerdyn melyn gafodd e am dacl hwyr ar Achraf Hakimi.
Roedd disgwyl i Gymro arall, Ethan Ampadu, chwarae i Leipzig yn erbyn Freiburg, ond doedd dim modd iddo fe ymddangos oherwydd anaf.