Mae’r pêl-droediwr Aaron Ramsey wedi diolch i bobol yng Nghymru am aros gartref yn sgil y coronafeirws.
Daw neges chwaraewr Juventus a Chymru mewn fideo sydd wedi’i chyhoeddi ar dudalen Twitter Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ac fe ddaw ar ôl i’r Cymro Cymraeg o Gaerdydd roi cyfanswm o £20,000 i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i’w helpu gyda’r frwydr yn erbyn y feirws.
“Neges o’r Eidal,” meddai neges ar dudalen Twitter Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Mae @FAWales a seren @juventusfcen @aaronramsey yn diolch i bawb yng Nghymru am aros gartref ac achub bywydau ynghyd â’n staff gwych ledled GIG Cymru.”
Daw’r neges i ben gyda’r hashnodau #GrazieMille #Diolch ac #ArosGartrefAchubBywydau.
Neges O’r Eidal – Mae @FAWales a seren @juventusfcen @aaronramsey yn diolch i bawb yng Nghymru am aros gartref ac achub bywydau ynghyd â’n staff gwych ledled GIG Cymru#GrazieMille #Diolch#ArosGartrefAchubBywydau pic.twitter.com/1U3KGiE6Ik
— Iechyd Cyhoeddus Cymru (@IechydCyhoeddus) April 4, 2020