Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi ymddiheuro wrth y cefnogwyr ar ôl dweud y bydd y chwaraewyr yn cadw draw oddi wrthyn nhw gymaint â phosib oherwydd pryderon am coronavirus.
Mae’r clwb yn dilyn cyngor meddygol yn dilyn achos o’r firws yn y ddinas, wrth iddyn nhw baratoi i herio West Brom yn Stadiwm Liberty heddiw.
Fe fu’r clwb hefyd yn ymdopi ag achosion o glwy’r pennau ymhlith aelodau’r Academi, wrth iddyn nhw gadw’r tîm dan 23 i ffwrdd o’r brif garfan.
“Dw i ddim yn berson meddygol, felly dw i ddim yn mynd i roi unrhyw gyngor meddygol i’r cyhoedd yn Abertawe, ar wahân i ddweud ein bod ni’n dilyn canllawiau ein tîm meddygol,” meddai.
“Am wn i, yr unig beth i’w grybwyll, ac nid rhywbeth Abertawe yw e, yw fod canllawiau’n cael eu dosbarthu ynghylch bod yn ofalus wrth gyfathrebu â’r cefnogwyr yn nhermau hunluniau, llofnodion ac adeiladu perthnasau’n gyffredinol.
“Rhaid i ni fod ychydig yn fwy gofalus am hynny, sy’n swnio’n ofnadwy oherwydd rydyn ni eisiau cyfathrebu â’r cyhoedd.
“Dylid seilio tipyn o’n gwaith ar adeiladu perthnasau â’r cefnogwyr, ond dyna’r canllawiau felly os oes yna lai o gyswllt â’r cyhoedd nag y bydden ni fel arfer yn ei wneud, yn enwedig ar ddiwrnodau gemau, dw i’n ymddiheuro ymlaen llaw.
“Ry’n ni wedi bod yn dilyn canllawiau, dyna’r cyfan.”
Y gêm
Mae amheuon am ffitrwydd Andre Ayew a Bersant Celina cyn y gêm, gyda’r naill yn dioddef o anaf i’w droed a’r llall i’w belfis.
Mae Ahmed Hegazi, amddiffynnwr West Brom, wedi anafu llinyn y gâr, yr un anaf â’r asgellwr Grady Diangana, tra bod Romaine Sawyers ar gael ar ôl gwaharddiad.
Mae’r Elyrch yn nawfed, bedwar pwynt islaw safleoedd y gemau ail gyfle, tra bod West Brom ar frig y Bencampwriaeth, bwynt yn unig uwchlaw Leeds.
Mae West Brom wedi curo Abertawe yn eu tair gêm gynghrair ddiwethaf, gan sgorio deg gôl ac ildio dim ond dwy, ac mae’r Saeson yn mynd am ail fuddugoliaeth oddi cartref yn olynol yn erbyn yr Elyrch.
Mae West Brom wedi ennill 22 o gemau oddi cartref yn y Bencampwriaeth ers dechrau’r tymor diwethaf, sy’n fwy nag unrhyw dîm arall yn y gynghrair.
Ers ennill pump allan o chwe gêm ar ddechrau’r tymor i’w codi i frig y Bencampwriaeth, dim ond wyth buddugoliaeth gafodd yr Elyrch mewn 30 o gemau yn y gynghrair. Dim ond tri thîm sydd wedi ennill llai o gemau nag Abertawe yn y cyfnod hwnnw.