Mae Steve Cooper, rheolwr Abertawe, yn galw ar ei dîm i gyd-dynnu ar gyfer y daith i Hull yn y Bencampwriaeth o flaen y camerâu nos yfory (nos Wener).

Mae’r Elyrch heb fuddugoliaeth yn eu pedair gêm ddiwethaf ac yn dechrau llithro i lawr y tabl, ac mae bwlch o chwe phwynt rhyngddyn nhw a’r safleoedd ail gyfle erbyn hyn.

Ac fe fyddan nhw heb y chwaraewr canol cae George Byers, sydd allan am weddill y tymor ag anaf i’w ffêr, a dydy’r amddiffynnwr canol Mike van der Hoorn ddim eto wedi gwella’n llawn o anaf.

Ond bydd yr Elyrch yn wynebu tîm Hull sydd heb fuddugoliaeth mewn chwe gêm.

Mae pryderon cefnogwyr yr Elyrch yn dod yn amlycach gyda phob gêm ar hyn o bryd, ac mae rhai yn mynd mor bell â galw ar y rheolwr Steve Cooper i gamu o’r neilltu.

“Os ydyn ni am groesi’r llinell a chyrraedd y gemau ail gyfle, mae angen i ni gyd-dynnu a chefnogi ein gilydd,” meddai cyn y daith i Hull ar noson San Ffolant.

“Y peth diwetha’ fyddwn ni’n ei wneud yma yw dechrau rhoi pwysau ar ein gilydd.

“Rydyn ni’n mynd i herio’n gilydd a chael y gorau allan o’n gilydd ond wnawn ni ddim pwyso ar neb.

“Mae angen i ni gefnogi ein gilydd.”