Wrecsam 0–0 Dagenham & Redbridge                                     

Di sgôr a oedd hi wrth i Wrecsam groesawu Dagenham & Redbridge i’r Cae Ras yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.

Roedd hwn yn gyfle i’r Dreigiau godi’n glir o safleoedd y gwymp yn erbyn un o’r timau sydd yn agos atynt yn tabl ond nid felly y bu.

Yn wir, yr ymwelwyr a ddaeth agosaf at sgorio mewn gêm ddigon di fflach ond cafodd peniad Alex Reid ei arbed yn dda gan Rob Lainton.

Mae Wrecsam yn llithro dau le i’r pedwerydd safle ar bymtheg yn y tabl.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Jennings (Harris 79’), Pearson, Rutherford, Summerfield, Lawlor, Young, Kennedy, Thompson, Jarvis (Keillor-Dunn 84’), Hooper

Cerdyn Melyn: Summerfield 90+5’

.

Dagenham & Redbridge

Tîm: Justham, Elefheriou, Onariase, Robinson, Croll, Clark, Gordon, Brundle, Deering, House (Kandi 67’), Reid

Cardiau Melyn: House 25’, Gordon 87’

.

Torf: 4,024