Mae cyn-asgellwr 32 oed Cymru David Cotterill wedi ymuno â chlwb pêl-droed y Barri, lle mae ei gefnder Jordan Cotterill yn chwarae.

Chwaraeodd David Cotterill dros 400 o gemau proffesiynol  i dimau megis Sheffield United, Birmingham City, Wigan Athletic ac Abertawe, yn ogystal ag ennill 24 cap dros Gymru.

“Mae gan David lot i’w gynnig ar y cae ac yn yr ystafell newid,” meddai rheolwr y Barri, Gavin Chesterfield.

“Mae o wedi dangos angerdd dros chwarae i’r clwb a chwarae gyda Jordan.”

Yn ddiweddar bu David Cotterill yn chwarae yn yr Indian Super Leag gyda thîm ATK.

Bydd y Barri’n herio Cei Connah mewn gêm gartref yn Uwchgynghrair Cymru ddydd Sadwrn (Chwefror 1).