Mae’r pêl-droediwr Daniel Gosset, sydd wedi bod yn derbyn triniaeth ar gyfer canser Non-Hodgkin’s Lymphoma, wedi cael yr “all clear.”

Mae yna lawer iawn o gefnogaeth wedi bod i Daniel Gosset, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon ers iddo gael gwybod bod ganddo ganser fis Medi 2019.

“Mae’r gwaith caled yn parhau,” meddai ar ei gyfrif Trydar ddydd Mawrth (Ionawr 28).

“Rwy’n symud i gael triniaeth radiotherapi a chael gwelliant llwyr i’r asgwrn femur.

“Ar ôl chwe mis o gemotherapi, dwi wrth fy modd i gael yr all clear. Gwellhad llwyr.”

Mae Daniel Gosset, 24, yn chwarae i’r Bala, ac mae wedi treulio cyfnodau yn chwarae i Fangor a’r Rhyl.

Cynrychiolodd dîm Cymru C yn erbyn Lloegr yn Salford ym Mawrth 2019..