Daeth cadarnhad fod Connor Roberts wedi anafu ei ysgwydd yng ngêm Abertawe yn Stoke ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 25).
Roedd yn ddiwrnod siomedig i’r Elyrch, wrth iddyn nhw golli o 2-0 wrth i’w cyn-chwaraewr canol cae, Sam Clucas rwydo yn erbyn ei hen glwb.
James McClean sgoriodd ail gôl y tîm cartref i gau pen y mwdwl ar ddiwrnod siomedig i dîm Steve Cooper.
Ond fe fydd pryderon pellach am Connor Roberts, y cefnwr de, ar ôl iddo orfod gadael y cae chwarter awr cyn diwedd y gêm.
Cafodd ei anafu wrth ymgiprys gyda James McClean am y bêl.
“Fe ddigwyddodd o dan amgylchiadau anffodus oherwydd fe wnaeth Connor Roberts anafu ei ysgwydd wrth gael ei wthio yn y gornel,” meddai’r rheolwr.
“Roedd e’n ei chael hi’n anodd taflu’r bêl i mewn ac i godi ei freichiau hefyd.
“Doedd e ddim eisiau dod oddi ar y cae, ond roedd e’n gwybod fod rhaid iddo fe.
“Doedd e ddim yn gallu chwarae ar y lefel roedd e eisiau gwneud, a doedden ni ddim am achosi rhagor o niwed.”