Mae tîm pêl-droed Caerdydd yn teithio i Reading heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 25) i herio tîm y Cymro Mark Bowen, wrth i wythnos brysur ddechrau gyda gêm yng Nghwpan FA Lloegr.

Byddan nhw’n herio West Brom yng Nghaerdydd nos Fawrth (Ionawr 28) cyn croesawu gwrthwynebwyr heddiw i Stadiwm Dinas Caerdydd yn y Bencampwriaeth.

Yn ôl y rheolwr Neil Harris, fe fydd cylchdroi’r chwaraewyr yn hollbwysig yn ystod y cyfnod prysur.

“Mae gyda ni rediad prysur gyda thair gêm mewn chwe niwrnod,” meddai.

“Yn ddelfrydol, rydych chi eisiau manteisio ar seibiant ac adferiad, ond mae llawer o dimau yn yr un sefyllfa felly does gyda ni ddim cwynion am hynny.

“Mae cyfnod byr rhwng gemau ac mae hynny’n profi’r garfan a’u ffitrwydd, ond dw i’n ffodus o gael criw craidd da o chwaraewyr sydd eisiau chwarae.

“Dyna lle mae rheoli’r garfan yn mynd yn bwysig – bydd y tair gêm nesaf yn cynnig cyfleoedd i chwaraewyr ddod i mewn a rhoi eu dwylo i fyny.”

Hud y gwpan

“Rydyn ni eisiau ennill gemau pêl-droed,” meddai wedyn.

“Mae’n gystadleuaeth wych pan ydych chi’n cyrraedd y rowndiau olaf.

“Wrth gwrs, mae’n hyfryd i ni o’r genhedlaeth hŷn sydd ag atgofion o dimau llai yn curo’r timau mawr.”

“Yn y pen draw, rydyn ni eisiau bod yn rownd nesa’r gwpan ac fe wna i ddewis tîm priodol er mwyn dangos parch i’r gystadleuaeth.”