Mae un arall o sêr tîm dan 17 Lloegr wedi ymuno ar fenthyg â Chlwb Pêl-droed Abertawe am weddill y tymor.
Conor Gallagher yw’r trydydd aelod o’r tîm i symud i Abertawe, yn dilyn trosglwyddiadau dros dro’r ymosodwr Rhian Brewster o Lerpwl a’r amddiffynnwr Marc Guehi o Chelsea.
Mae’r triawd i gyd yn gyfarwydd â Steve Cooper a’i gynorthwywyr ar ôl iddo fod yng ngofal y tîm dan 17 a gododd Gwpan y Byd yn 2017.
Gall y chwaraewr canol cae 19 oed chwarae ar yr asgell hefyd, ac fe sgoriodd e chwe gôl a chynorthwyo dwy gôl arall mewn 26 gêm yn ystod cyfnod ar fenthyg yn Charlton.
Cafodd ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Mis yn y Bencampwriaeth ym mis Medi ac mae’n gyn-aelod o dîm dan 18 Chelsea oedd wedi ennill pedwar tlws mewn un tymor.
Mae ganddo fe gytundeb gyda Chelsea tan haf 2021, a chafodd ei enwi’n Chwaraewr Gorau’r Academi yn 2018-19.
Roedd e’n aelod o garfan Chelsea oedd wedi ennill Cwpan Europa wrth guro Arsenal fis Mai y llynedd, ac fe enillodd ei gap dan 21 cyntaf ym mis Hydref, gan fynd yn ei flaen i sgorio un gôl mewn pedair gêm.
Fe allai gael ei gynnwys yng ngharfan yr Elyrch i herio Wigan ddydd Sadwrn (Ionawr 18).
‘Bwrw iddi’
Mae Conor Gallagher yn dweud ei fod e’n edrych ymlaen at “fwrw iddi” gyda’r Elyrch.
“Dw i wedi cyffroi’n lân o gael ymuno â chlwb mawr fel Abertawe,” meddai.
“Dw i’n edrych ymlaen at fwrw iddi a chyfrannu at y tîm.
“Dw i wedi magu tipyn o brofiad yn ystod fy nghyfnod gyda Charlton, a chwarae bron bob munud yn y Bencampwriaeth.
“Roedd fy nghyfnod i gyd yno’n wych, ac mae’r her newydd hon yn un i gyffroi yn ei chylch.
“Dw i’n credu bod yna gryn ddisgwyliadau oherwydd ’mod i wedi sgorio nifer o goliau a dw i’n hoffi rhywfaint o bwysau, a dw i’n edrych ymlaen at ddangos beth dw i’n gallu’i wneud.”
Targedau yn Abertawe
Mae’n dweud ei fod e’n edrych ymlaen at y frwydr am le yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.
“Dw i eisiau helpu Abertawe i gyrraedd y gemau ail gyfle oherwydd dw i’n sicr yn credu ein bod ni’n gallu gwneud hynny.
“Gyda’r garfan hon, os cawn ni rediad da o gemau, gallen ni hyd yn oed fynd am ddyrchafiad awtomatig oherwydd dw i ddim yn meddwl y dylech chi fod yn wfftio unrhyw beth.
“Ond ar lefel bersonol, un gêm ar y tro fydd hi, cymryd popeth fel mae’n dod a cheisio ennill pob gêm.”