Ar ôl i’r Elyrch ennill o 1-0 yn Stadiwm Liberty, roedden nhw’n ceisio torri record hanesyddol drwy fod y tîm cyntaf erioed i gwblhau’r dwbwl yn y derbi yn y gynghrair.
Daeth y ddau dîm o fewn trwch blewyn i gipio buddugoliaeth, wrth i Callum Paterson a Bersant Celina daro’r pyst, ond gêm i’r amddiffynwyr ymfalchïo ynddi oedd hon.
Mae’r Elyrch bellach yn gydradd seithfed yn y Bencampwriaeth, tra bod yr Adar Gleision bedwar pwynt y tu ôl iddyn nhw ac yn parhau i frwydro am le yn y safleoedd ail gyfle.
Crynodeb o’r gêm
Gwnaeth Rhian Brewster, sydd ar fenthyg yn Abertawe o Lerpwl, argraff yn syth bin wythnos ar ôl iddo ymddangos yn y gêm ddarbi yng Nglannau Mersi.
Gwelodd yr ymosodwr 19 oed y cerdyn melyn o fewn deng munud am lorio Lee Tomlin, funudau’n unig ar ôl i Robert Glatzel benio’r bêl heibio’r gôl cyn i Wayne Routledge ergydio dros y trawst i Abertawe.
Yn absenoldeb Mike van der Hoorn, llwyddodd Ben Cabango, y Cymro Cymraeg, a Ben Wilmot i sefyll yn gadarn yng nghanol yr amddiffyn.
Ac roedden nhw’n gefnogaeth sylweddol i’r golwr Freddie Woodman.
Ar ôl i Ben Cabango daclo Robert Glatzel wrth geg y gôl, aeth Bersant Celina yn agos at sgorio ym mhen arall y cae ar ôl 28 munud.
Aeth y gêm yn flêr am gyfnod wrth i’r ddau dîm ceisio goruchafiaeth gorfforol, ac fe fu sawl ffrae rhwng Junior Hoilett a Connor Roberts, ac yna rhwng Robert Glatzel a Ben Cabango.
Daeth cyfleoedd i Junior Hoilett a Rhian Brewster i’w timau yn gynnar yn yr ail hanner ond parhau’n hesb wnaeth yr ymosodwyr.
Daeth cyfleoedd hwyr i’r eilyddion Josh Murphy a Callum Paterson i gipio’r triphwynt i’r Adar Gleision.