Fe wnaeth Ben Tozer, cyn-chwaraewr Casnewydd, ddychwelyd i Rodney Parade i’w cosbi wrth iddyn nhw orffen yn gyfartal 1-1 yn erbyn Cheltenham.

Mae’r Alltudion heb fuddugoliaeth ers chwe gêm erbyn hyn, ac maen nhw’n gostwng un safle i bedwerydd ar ddeg yn yr Ail Adran, tra bod y Saeson yn dal i geisio am le yn y safleoedd ail gyfle.

Sgoriodd Tristan Abrahams gôl Casnewydd o gic gornel Josh Sheehan i mewn i’r cwrt chwech, ddwy funud ar ôl yr egwyl, ond fe darodd Cheltenham yn ôl ar ôl 85 munud i gipio pwynt wrth i Ben Tozer rwydo oddi ar groesiad Chris Hussey.

Mae Cheltenham yn wythfed yn y tabl.