Mae Trevor Birch, cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, yn dweud na fydd e’n gwneud sylw pellach am ddyfodol Academi’r clwb cyn i’r ffenest drosglwyddo gau ddiwedd mis nesaf.

Fe fu ansicrwydd ers i’r Elyrch gwympo o’r Uwch Gynghrair y gallai’r Academi ddod i ben yn sgil pwysau ariannol.

Mae’r Elyrch wedi magu enw da dros y blynyddoedd diwethaf am feithrin doniau chwaraewyr o Gymru fel Joe Rodon, Connor Roberts a Ben Cabango.

Ac wrth iddyn nhw barhau mewn trafferthion ariannol yn deillio o ostwng i’r Bencampwriaeth, mae’n debygol y byddan nhw’n dibynnu ar feithrin doniau eu chwaraewyr eu hunain yn hytrach na phrynu o’r tu allan.

“Mae cryn dipyn o sôn ar fforymau ac ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch cyfeiriad ein hacademi yn y dyfodol,” meddai Trevor Birch.

“Fel dw i wedi’i nodi eisoes, rydym yn parhau i adolygu pob agwedd ar ein gweithrediadau, nid dim ond yr Academi, wrth i ni addasu i fywyd ariannol cyfyng y tu allan i’r Uwch Gynghrair.

“Unwaith mae’r ffenest drosglwyddo allan o’r ffordd, byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r cefnogwyr.

“Fy nod yw parhau i fod yn agored, yn onest a chyfathrebu’n gyson â’r cefnogwyr, boed yn newyddion da neu ddrwg.

“Ond mae angen i ni ddod trwy fis Ionawr a chwblhau’r adolygiadau sydd ar y gweill yn gyntaf, cyn y gallaf roi diweddariad go iawn i chi.

“Felly byddwch yn amyneddgar â fi am ychydig eto.”