Fe fydd Justin Edinburgh yn cael ei gofio gan ddau o’i glybiau ddydd Sul (Rhagfyr 29), wrth i Gasnewydd groesawu Leyton Orient i Rodney Parade.

Bydd y ddau glwb yn herio’i gilydd yn yr Ail Adran.

Bu farw Justin Edinburgh yn 49 oed ym mis Mehefin, ac yntau newydd arwain Leyton Orient i ddyrchafiad.

Roedd yn rheolwr ar Gasnewydd rhwng 2011 a 2015.