Nottingham Forest 0–1 Caerdydd                                               

Sgoriodd Nathaniel Mendez-Laing unig gôl y gêm wrth i Gaerdydd drechu Notingham Forest oddi cartref yn y City Ground brynhawn Sadwrn.

Mae dechrau da cyfnod Neil Harris wrth y llyw yn parhau wrth i’r Adar Gleision ymestyn eu rhediad heb golli i dair gêm.

Er i Forest ddechrau’n dda, Caerdydd a aeth ar y blaen yn y charter awr cyntaf, Nathaniel Mendez-Laing yn crymanu ergyd dda heibio i Brice Samba o ochr y cwrt cosbi.

Bu rhaid i’r Adar Gleision amddiffyn am gyfnodau hir wedi hynny er i Gary Madine ddod yn agos at ddyblu mantais yr ymwelwyr o groesiad Mendez-Laing.

Ond roedd un yn ddigon wrth i dîm Neil Harris ddal eu gafael ar lechen lân a sicrhau’r tri phwynt, tri phwynt sydd yn eu codi i’r degfed safle yn y tabl.

.

Nottingham Forest

Tîm: Samba, Cash, Figueiredo, Worrall, Robinson (Mir 80’), Wtson, Silva, Lolley, Carvalho (Semedo 66’), Ameobi (Adomah 75’), Grabban

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Flint, Nelson, Bennett, Bacuna, Pack, Mendez-Laing (Paterson 80’), Tomlin, Hoilett (Morrison 86’), Madine (Ward 67’)

Gôl: Mendez-Laing 14’

Cerdyn Melyn: Madine 67’

.

Torf: 28,209