Fe fydd tîm pêl-droed Cymru’n darganfod am 5.30 brynhawn heddiw pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn Ewro 2020.

Bydd yr enwau’n cael eu tynnu o’r het yn Bucharest, a Chymru yn eu plith ar ôl i dîm Ryan Giggs gymhwyso am yr ail waith yn olynol.

Cyrhaeddodd tîm Chris Coleman y rownd gyn-derfynol yn Ffrainc bedair blynedd yn ôl.

Bydd Cymru yn y pedwerydd pot.

Pe bai Cymru yng ngrŵp A, bydden nhw’n mynd i Rufain neu Baku, ond byddai lle yng ngrŵp B yn golygu taith i St. Petersburg neu Copenhagen.

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau ar Fehefin 12 y flwyddyn nesaf, gyda’r rownd gyn-derfynol a’r rownd derfynol yn cael eu cynnal yn Wembley.