Huddersfiled 1–1 Abertawe
Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Abertawe ymweld â Stadiwm John Smith’s i wynebu Huddersfield yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.
Rhoddodd Jay Fulton yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen cyn i Karlan Grant unioni pethau cyn yr egwyl.
Deunaw munud a oedd ar y cloc pan agorodd Fulton y sgorio, yn gorffen yn dda o ochr y cwrt cosbi.
Felly yr arhosodd hi tan bum munud cyn yr egwyl pan rwydodd Grant wedi i ergyd wreiddiol Alex Pritchard gael ei hatal.
Roedd hi’n gêm danllyd, gyda blaenwr Huddersfield, Fraizer Campbell, yn ffodus i aros ar y cae yn dilyn tacl hwyr ar Mike van der Hoorn yn yr hanner cyntaf.
Fe aeth y tîm cartref i lawr i ddeg dyn yn y diwedd, Trevoh Chalobah yn derbyn coch yn y munudau olaf am daro George Byers â’i ben.
Doedd dim digon o amser i’r Elyrch fanteisio, a gorffen yn gyfartal a wnaeth hi, canlyniad sydd yn codi tîm Steve Cooper i’r pumed safle yn y tabl.
.
Huddersfield
Tîm: Grabara, Bacuna, Schindler, Stankovic, O’Brien, Chalobah, Hogg, Kachunga, Pritchard (Diakhaby 79’), Grant (Hadregjonaj 88’), Campbell (Mounie 69’)
Gôl: Grant 41’
Cardiau Melyn: Hogg 12’, Campbell 31’, Stankovic 62’
Cerdyn Coch: Chalobah 86’
.
Abertawe
Tîm: Woodman, Roberts, Wilmot, van der Hoorn (Cabango 45’), Bidwell, Fulton, Grimes, Ayew, Celina (Byers 62’), Peterson, Baston (Surridge 68’)
Gôl: Fulton 18’
Cardiau Melyn: Byers 66’, Baston 90+3’
.
Torf: 20,062