Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud nad yw “canlyniadau gemau blaenorol yn cyfri dim”, wrth i’r Elyrch baratoi i herio Millwall yn Stadiwm Liberty yfory (dydd Sadwrn, Tachwedd 23).

Yn eu pum gêm ddiwethaf, mae’r ddau dîm wedi ennill dwy, colli un ac wedi cael dwy gêm gyfartal.

Cyn yr egwyl ar gyfer gemau rhyngwladol, cafodd yr Elyrch gêm gyfartal 2-2 oddi cartref yn Sheffield Wednesday, tra bod Millwall wedi curo Charlton gartref o 2-1.

Ond mae bwlch mawr rhyngddyn nhw yn y tabl, gyda’r Elyrch yn bedwerydd a Millwall yn bymthegfed ac yn mwynhau bywyd o dan arweiniad eu rheolwr newydd, Gary Rowett, a gafodd ei gysylltu â’r Elyrch ddechrau 2017 pan gafodd Paul Clement ei benodi.

“Mae Gary Rowett, fel rheolwr, bedair gêm i mewn [i’w gyfnod wrth y llyw] ac mae hynny bob amser yn rhywbeth i fod yn ofalus ohono fe,” meddai Steve Cooper.

“Fe wnaethon ni brofi hynny gyda Barnsley, wrth eu herio nhw yn y gêm gyntaf ar ôl iddyn nhw newid eu rheolwr.

“Felly rydyn ni’n wynebu hynny, a hon hefyd yw’r gêm gyntaf ar ôl yr egwyl ryngwladol.

“Rydyn ni wedi siarad â’r chwaraewyr a dweud bod rhaid i ni brofi i ni ein hunain y gallwn ni chwarae’n dda ar ôl egwyl, felly mae hynny’n ychwanegu at yr her ac fel dw i’n dweud, fel mae pawb yn dweud bob wythnos, rhaid i chi fod yn barod yn y gynghrair hon ar gyfer pob gêm rydych chi’n chwarae ynddi.”

Achub pwynt yn erbyn Sheffield Wednesday

Roedd yr Elyrch wedi bod ar y blaen am gyfnodau hir yn erbyn Sheffield Wednesday, ar ôl i Andre Ayew sgorio ar ôl 32 munud.

Ond tarodd y Saeson yn ôl wrth i Fernando Forestieri unioni’r sgôr ar ôl 81 munud, a Morgan Fox yn edrych yn debygol o fod wedi cipio’r triphwynt ar ôl 91 munud.

Ond brwydrodd yr Elyrch hyd y diwedd, ac fe rwydodd Ben Wilmott bedair munud i mewn i’r amser a ganiateir am anafiadau i sicrhau gêm gyfartal.

“Edrychwch ar ein gêm yn erbyn Sheffield Wednesday, ac roedden ni gystal ag yr ydyn ni wedi bod y tymor hwn,” meddai Steve Cooper.

“Ar 91 munud, roedden ni ar ei hôl hi o 2-1 ac yn unioni’r sgôr yn y funud olaf, ond doedd neb yn hapus wrth gerdded oddi ar y cae. Dyna natur y gynghrair.

“Allwch chi ddim edrych yn ormodol ar ganlyniadau blaenorol timau a pheidio â chymryd eich perfformiadau chi’n ganiataol chwaith os yw e wedi bod yn iawn.

“Dw i jyst yn meddwl fod rhaid i chi baratoi ar gyfer y gêm nesaf.”

Y gêm nesaf

Mae Steve Cooper yn dweud bod ei dîm yn canolbwyntio am y tro ar weithredu cynllun all ennill y gêm nesaf yn unig.

“Millwall yw’r gêm gyntaf ers rhai wythnosau ac rydyn ni’n edrych ymlaen ati,” meddai.

“Mae ganddyn nhw reolwr newydd, maen nhw’n dîm sy’n gwneud eu gorau glas iddo fe ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n ymateb i hynny.

“Mae’r gêm yn erbyn Caerdydd yn teimlo fel ei bod hi dri mis yn ôl!

“Felly rydyn ni’n edrych ymlaen ati ac mae gyda ni ddwy gêm wedyn o fewn wythnos.

“Dw i’n teimlo ar y cyfan na all canlyniadau blaenorol olygu dim os nad ydych chi’n paratoi.

“Wnawn ni ddim talu gormod o sylw iddyn nhw, byddwn ni’n paratoi ar gyfer y gêm a gobeithio y gallwn ni weithredu’r cynllun rydyn ni’n credu y bydd e’n gallu ennill y gêm i ni.”