Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau hiliol yn ystod y gêm bêl-droed rhwng Bwlgaria a Lloegr yn Sofia nos Lun (Hydref 14).

Cafodd nifer o chwaraewyr Lloegr eu sarhau’n hiliol gan y dorf yn ystod y gêm, a bu’n rhaid i’r gêm gael ei hatal nifer o weithiau.

Mae’r awdurdodau’n dweud bod y broses o geisio adnabod unigolion oedd ynghlwm wrth y digwyddiadau’n parhau.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Bwlgaria’n wynebu cyhuddiadau gan yr awdurdodau yn dilyn y gêm, ac mae eu swyddfeydd wedi cael eu harchwilio fel rhan o ymchwiliad.

Mae Borislav Mihaylov, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Bwlgaria, wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad yn sgil y mater.