Mae Zlatko Dalic, rheolwr tîm pêl-droed Croatia, yn rhybuddio na fydd ei dîm yn chwarae mewn modd amddiffynnol yn erbyn Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno (nos Sul, Hydref 13).
Ond mae’n bosib fod rhywfaint o’i neges wedi cael ei cholli wrth gael ei chyfieithu yn ystod y gynhadledd i’r wasg, wrth i swyddog y wasg y wlad fynnu ei fod ef ei hun yn disodli’r cyfieithydd yn sgil pryderon am safon y cyfieithu.
Fe fydd gêm gyfartal yn ddigon i sicrhau bod Croatia yn cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Ewro 2020 pe bai Hwngari yn methu â churo Azerbaijan.
“Does dim angen i ni ennill ond fyddwn ni ddim yn gwthio,” meddai.
“Does gyda ni ddim tîm all amddiffyn a pharcio’r bws o flaen y gôl. Rhaid i ni fod yn ddigon amyneddgar a chlyfar.
“Bydd yr ochr amddiffynnol o’r gêm yn bwysig iawn i ni.”
Newid cyfieithydd
Ond wrth i Ivan Perisic, asgellwr Croatia, roi sylwadau ar y gêm, fe wnaeth Tomislav Pacak fynnu ei fod e’n parhau’n gyfieithydd yn hytrach na’r cyfieithydd oedd wedi’i awdurdodi gan UEFA.
“Os nad oes ots gennych chi, fe wna i gyfieithu gweddill y gynhadledd i’r wasg oherwydd rydych chi’n colli darnau o wybodaeth mae e wedi’u dweud,” meddai’r swyddog.