Aberystwyth 1-1 Castell Nedd
Gêm gyfartal a gafwyd yn Aberystwyth nos Wener yn dilyn dwy gôl dda.
Aeth Castell Nedd ar y blaen wedi chwarter awr diolch i gôl safonol Paul Fowler. Cariodd y chwaraewr canol cae’r bêl o’i hanner ei hun cyn ergydio’n gywir i gornel isaf y rhwyd o 20 llath.
Ond roedd gôl Aberystwyth wedi 36 munud yn un hynod daclus hefyd, gwrthymosodiad gwych gyda Lewis Codling a Jordan Follows yn cyfuno’n effeithiol er mwyn creu’r cyfle i Codling yn y bocs ac yntau’n sgorio.
Methodd Lee Trundle gyfle da i Gastell Nedd ac arbedodd Lee Kendal yn wych wrth i Codling chwilio am ei ail i Aberystwyth.
Gwelodd Ricky Evans gerdyn coch yn dilyn tacl ofnadwy ar Kerry Morgan, ond er i Aber orffen gyda deg dyn bu bron iddynt gipio’r tri phwynt yn hwyr ond arbedodd Kendall yn dda o gynnig Follows.
Mae’r canlyniad yn golygu fod Aberystwyth yn esgyn o waelod y tabl tra mae Castell Nedd yn disgyn i’r trydydd safle.
Y Bala 2-2 Y Seintiau Newydd
Gêm o ddau hanner oedd hon wrth i’r Seintiau rwydo ddwywaith yn yr hanner cyntaf cyn i’r Bala daro’n ôl wedi’r egwyl i gipio pwynt annisgwyl ar Faes Tegid.
Aeth y Seintiau ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, y Bala’n methu delio a chroesiad cyn i Matty Williams sgorio gyda foli o 12 llath. Roedd hi’n ddwy toc wedi hanner awr o chwarae wedi i Greg Draper benio’n ôl ar draws gôl yn dilyn croesiad hir Mark Spender i’r postyn pellaf.
Roedd hi’n edrych ar ben ar y Bala ar hanner amser ond brwydrodd y tîm cartref yn ôl yn ddewr. Serch hynny, roedd elfen o lwc yn perthyn i’r ddwy gôl. Gwyro oddi ar amddiffynnwr i mewn i’r rhwyd a wnaeth ergyd Stephen Brown wedi 59 munud ac felly hefyd gic rydd Mark Jones dri munud yn ddiweddarach.
Bu rhaid i Terry McCormick yn y gôl arbed yn dda ar ddau achlysur yn hwyr yn y gêm, wrth i Alex Darlington a Williams geisio sgorio’r gôl fuddugol i’r Seintiau.
Ond dal eu gafael am bwynt haeddiannol a wnaeth bechgyn y Bala, pwynt sydd yn eu cadw yn bumed yn y tabl, ond pwynt sy’n golygu bod mantais y Seintiau ar y brig bellach wedi ei dorri i un pwynt.
Llanelli 2-1 Bangor
Methodd Bangor ddal eu gafael ar fantais gynnar yn gêm fawr y penwythnos yn Stebonheath. Roedd hi’n ymddangos fod y gogleddwyr am gipio buddugoliaeth dda oddi cartref ond tarodd Llanelli a Rhys Griffiths yn ôl gyda dwy gôl hwyr.
Peter Hoy roddodd Bangor ar y blaen gyda pheniad o gic gornel Mark Smythe wedi saith munud o chwarae. A dim ond arbediad gwych Ashley Morris wnaeth atal Siôn Edwards rhag ei gwneud hi’n ddwy i Fangor.
Roedd Hoy yn ei chanol hi unwaith eto gyda chwarter awr yn weddill, yn ildio cic o’r smotyn am lawio yn y cwrt cosbi y tro hwn. Unionodd Griffiths y sgôr o’r smotyn gyda’i drydedd gôl ar ddeg o’r tymor.
Ac roedd hi’n bedair gôl ar ddeg i Griffiths ac yn 2-1 i Lanelli gyda phedwar munud yn weddill, foli nerthol y blaenwr yn torri calonnau Bangor.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Llanelli i’r ail safle bwynt yn unig tu ôl y Seintiau tra mae Bangor ar y llaw arall yn aros yn bedwerydd.
Y Drenewydd 4-2 Caerfyrddin
Selogion Parc Latham a welodd y nifer fwyaf o goliau yn y gynghrair y penwythnos hwn wrth i’r tîm cartref drechu’r ymwelwyr o Gaerfyrddin o 4-2.
Cic rydd dda gan Jamie Price roddodd y Drenewydd ar y blaen wedi chwarter awr o chwarae ac roedd hi’n 2-0 ar yr egwyl diolch i gôl Steve Blenkinsop o 15 llath.
Ond brwydrodd yr ymwelwyr yn ôl ar ddechrau’r ail hanner a chawsant gic o’r smotyn wedi i Tim Hicks gael ei lorio yn y bocs ar ôl 57 munud. Cododd Hicks i gymryd y gic a sgorio.
Y Drenewydd a gafodd y gôl nesaf, ail ymdrech Blenkinsop yn adfer y ddwy gôl o fantais i’r tîm cartref ar yr awr. Ond yn ôl y daeth yr ymwelwyr eto bum munud yn ddiweddarach wrth i Geraint Passmore ei gwneud hi’n 2-3.
Yna’n syth o’r ail ddechrau seliwyd y gêm i’r Drenewydd diolch i gôl Nick Rushton wedi 66 munud. Pedair gôl yn ugain munud cyntaf yr ail hanner felly ond ni ychwanegwyd at y sgôr yn y chwarter olaf er i Gaerfyrddin bwyso a gorfodi ambell arbediad gan Nick Thomas rhwng y pyst i’r Drenewydd.
Roedd y ddau dîm yn gyfartal ar bwyntiau ar waelod y tabl cyn y gêm ond mae’r tri phwynt yn ddigon i godi’r Drenewydd uwch law Aberystwyth, Lido Afan ac Airbus i’r wythfed safle, gan adael Caerfyrddin yn unig ar waelod y gynghrair.
Port Talbot 2-1 Airbus
Roedd dwy gôl Cortez Belle yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r tîm cartref yn Stadiwm GenQuip.
Prestatyn 3-1 Lido Afan
Cardiau coch oedd thema’r hanner cyntaf yng Ngerddi Bastion cyn i’r goliau i gyd ddod yn yr ail hanner wrth i Brestatyn ennill yn gyfforddus yn y diwedd.
Anfonwyd chwaraewr Prestatyn, Mike Parker oddi ar y cae wedi dim ond 13 munud cyn i Lido Afan fynd lawr i ddeg dyn ddeg munud yn ddiweddarach wrth i Liam Hancock weld cerdyn coch.
Di sgôr ar yr egwyl ond roedd deg dyn Prestatyn yn gryfach na deg dyn Lido yn yr ail hanner. Ross Stephens agorodd y llifddorau gydag ergyd wych o 25 llath wedi 57 munud. Ychwanegodd y chwaraewr-gyfarwyddwr pêl droed, Neil Gibson ail ei dîm wedi 76 munud cyn i Chris Davies rwydo’r drydedd bum munud o’r diwedd.
Gôl gysur yn unig oedd honno i Jonothan Hood ddau funud o’r diwedd wrth i Lido Afan ddychwelyd i’r de yn waglaw. Maent yn llithro i’r degfed safle o ganlyniad i’r golled tra mae Prestatyn yn aros yn yr hanner uchaf yn y chweched safle.