Clwb Pel-droed Casnewydd
Rhy ychydig rhy hwyr oedd gôl Darryl Knight i Gasnewydd ddydd Sadwrn diolch i ddwy gôl yn chwarter awr cyntaf yr ail hanner i’r ymwelwyr o Tamworth.
Yn dilyn dechrau dychrynllyd i gyfnod Justin Edinburg wrth y llyw yng Nghasnewydd brynhawn Sadwrn diwethaf roedd pethau yn argoeli’n well nos Fawrth wrth iddynt roi cweir i Fleetwood Town oddi cartref. Ond cymryd cam yn ôl oedd eu hanes ar Barc Sbyty brynhawn Sadwrn wrth golli o 2-1 yn erbyn Tamworth.
Roedd pethau yn edrych yn addawol yn yr hanner cyntaf wrth i Gasnewydd gael y gorau o’r gêm cyn gadael am yr ystafell newid ar yr hanner â’r gêm yn ddi-sgôr.
Ond newidiodd hynny’n fuan wedi’r egwyl wrth i’r ymwelwyr fynd ar y blaen. Roedd camgymeriadau amddiffynnol yn nodwedd o berfformiad Casnewydd ddydd Sadwrn diwethaf a chamgymeriad arall roddodd y cyfle i Kieron St Aimie roi Tamorth ar y blaen yr wythnos hon.
Roedd hi’n 2-0 wedi awr o chwarae, Iyseden Christie yn penio ail yr ymwelwyr.
Cafwyd diweddglo diddorol diolch i gôl Knight i Gasnewydd gyda chwarter awr yn weddill ond colli gartref fu hanes Casnewydd eto er gwaethaf perfformiad gwell.
Roedd hi’n amlwg o sylwadau Justin Edingburg wedi’r gêm beth oedd problem Casnewydd, “Pan rydyn ni’n rheoli’r meddiant ac yn creu cyfleoedd mae’n rhaid ini gosbi timau.” Wnaeth Casnewydd ddim o hynny yn wahanol i Tamworth.
Mae Casnewydd yn aros yn drydydd o waelod y tabl ond roedd awgrym yn y perfformiad hwn y gallant esgyn y tabl gydag ychydig bach o lwc.