Mae Clwb Pêl-droed Bolton Wanderers wedi cael 14 diwrnod ychwanegol i ddatrys eu sefyllfa ariannol cyn y bydd yn cael ei ddirwyn i ben.
Mae’r clwb ar fin mynd i’r wal ar ôl i’r Gynghrair Bêl-droed roi uchafswm o bythefnos i’r gweinyddwyr werthu’r clwb neu brofi fod modd iddo gael ei ariannu am weddill y tymor.
Ond mae lle i gredu nad oes yna’r un geiniog ar gael ar hyn o bryd ar ôl i gynnig gan gonsortiwm i brynu’r clwb gael ei dynnu’n ôl.
Y gobaith oedd y byddai Bolton yn gallu datrys y sefyllfa erbyn 5 o’r gloch neithiwr, ond daeth y trafodaethau i ben yn aflwyddiannus.
Erbyn hyn, fe allai’r consortiwm a dynnodd eu cynnig yn ôl gyflwyno cynnig newydd cyn diwedd y dydd heddiw (dydd Mercher, Awst 28).
Mae lle i gredu y bu anghydfod rhwng Ken Anderson, y perchennog mwyaf diweddar, a’r credydwr mwyaf, sef ymddiriedolaeth deuluol a gafodd ei sefydlu gan Eddie Davies cyn ei farwolaeth y llynedd.
Bury
Yn y cyfamser, mae Debbie Jevans, pennaeth y Gynghrair Bêl-droed, yn dweud nad oedd gan y Gynghrair ddewis ond diarddel Clwb Pêl-droed Bury yn sgil trafferthion ariannol.
Mae hi’n dweud y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r hyn ddigwyddodd cyn i’r clwb gael ei ddiarddel ddoe.
Roedd gan Steve Dale, perchennog y clwb, tan 5 o’r gloch ddoe i gynnig perchennog newydd neu sicrwydd y gallai’r clwb gael ei werthu’n fuan.
Mae Debbie Jevans yn gwrthod yr awgrym y gallai’r clwb fod wedi cael rhagor o amser, neu gael eu gostwng i adran is yn hytrach na chael eu dirwyn i ben, ar ôl iddyn nhw orfod gohirio pum gêm yn sgil y sefyllfa.