Mae Dean Saunders, cyn-bêldroediwr Cymru, wedi cael ei garcharu am wrthod rhoi prawf anadl ar ôl cael ei arestio am yfed a gyrru.

Cafodd ei arestio ym mis Mai ar ôl cael ei stopio gan yr heddlu, ac fe wrthododd roi prawf anadl yn y fan a’r lle ac yn y ddalfa.

Plediodd yn euog drwy lythyr ar ôl pledio’n ddieuog mewn gwrandawiad blaenorol, ac fe gafodd ei garcharu am ddeg wythnos yn Llys Ynadon Caer.

Mae wedi’i wahardd rhag gyrru am 30 mis (dwy flynedd a hanner) ac fe fu’n rhaid iddo fe dalu £620 o gostau.

Dywedodd wrth y llys ei fod e wedi bod yn gwylio rasus ceffylau yng Nghaer, a’i fod wedi yfed dau beint, ac fe awgrymodd ei gyfreithiwr fod yna adwaith i’w feddyginiaeth am anaf i’w goesau a’i bwmp asthma.

Pan gafodd ei arestio, roedd yn cael trafferth siarad ac yn pwyso yn erbyn ei gar, yn ôl yr heddlu.

Dywedodd y barnwr fod Dean Saunders yn credu ei fod e “uwchlaw’r gyfraith” am ei fod yn ffigwr cyhoeddus, a’i fod yn “drahaus”.