Mae Owain Fôn Williams, y golwr o Ddyffryn Nantlle, wedi cael ei ganmol am ei agwedd a’i ymroddiad i dîm Hamilton er gwaethaf salwch ei ferch fach.
Fe serennodf yn y gêm yn erbyn Kilmarnock, er bod ei ferch fach yn yr ysbyty ers wythnos yn derbyn triniaeth am lid yr ymennydd.
A hithau bellach yn cael mynd adref, fe gadwodd y golwr 32 oed lechen lân yn y gêm, wrth i’w dîm ennill o 2-0.
“Ro’n i’n gwybod beth ro’n i’n ei gael,” meddai Declan Rice, ei reolwr.
“Fo oedd rhif tri Cymru yn yr Ewros ac mae o’n rhagorol.
“Mae ei ferch fach wedi bod yn sâl drwy gydol yr wythnos ac wedi bod yn yr ysbyty, ac felly parch mawr iddo fo am chwarae.
“Mi wnes i ofyn iddo fo a oedd o eisiau chwarae, ond doedd dim angen i fi wneud hynny.
“Roedd o yn yr ysbyty yn y nos, ac yn ymarfer y bore wedyn.
“Doedd dim amheuaeth na fyddai o’n chwarae. Dyna gymeriad y boi.”