Fe fydd tîm rygbi Cymru’n gallu hawlio eu lle yn swyddogol ar frig rhestr detholion y byd drwy guro Lloegr yn Twickenham heddiw (dydd Sul, Awst 11).
Maen nhw ar y brig yn answyddogol ar ôl i Awstralia drechu Seland Newydd ddoe, gan ddod â degawd o oruchafiaeth y Crysau Duon i ben.
Bydd y rhestr ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi’n swyddogol ddydd Llun.
Mae Cymru’n mynd am bymthegfed buddugoliaeth o’r bron, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn Japan, a diwedd cyfnod Warren Gatland wrth y llyw cyn i Wayne Pivac gymryd yr awenau.
Ac mae’r tîm yn cynnwys 13 o’r chwaraewyr gurodd Iwerddon i ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gynharach eleni, gan gynnwys y capten Alun Wyn Jones, fydd yn torri’r record am y nifer fwyaf o gapiau dros Gymru yng ngêm rhif 126 i’r chwaraewr ail reng.
Mae e hefyd wedi cynrychioli’r Llewod mewn naw gêm brawf.
Newid yn y garfan
Mae un newid hwyr yng ngharfan Cymru, wrth i’r mewnwr Tomos Williams orfod methu’r gêm o ganlyniad i anaf i’w ysgwydd.
Roedd disgwyl iddo fe gymryd ei le ymhlith yr eilyddion, ond bydd ei le ar y fainc yn cael ei gymryd gan Aled Davies.
O safbwynt Lloegr, mae Sam Underhill, Henry Slade a Ruaridh McConnochie wedi tynnu’n ôl o’r garfan oherwydd anafiadau, ac mae Jonathan Joseph, Lewis Ludlam a Joe Cokanasiga i mewn yn eu lle.
Tîm Cymru: L Williams, G North, J Davies, H Parkes, J Adams, G Anscombe, G Davies; N Smith, K Owens, T Francis, A Beard, A Wyn Jones, A Wainwright, J Tipuric, R Moriarty.
Eilyddion: E Dee, W Jones, D Lewis, J Ball, A Shingler, A Davies, D Biggar, O Watkin.