Kennny Miller (Ronnie Macdonald CCA 2.0)
Bydd clwb pêl-droed Caerdyddd yn asesu ffitrwydd yr ymosodwr Kenny Miller pan fydd yn ailymuno gyda’r garfan heddiw.

Roedd Miller wedi methu o drwch blewyn i gynrychioli’r Alban yn eu gêm yn erbyn Sbaen yn Alicante yng nghystadleuaeth Ewrop 2012, ond dywedodd hyfforddwr sef yr Adar Glas ei fod yn obeithiol y byddai’n ffit ar gyfer dydd Sadwrn yn erbyn Ipswich.

Fe fydd gan Malky Mackay fwy o ddewis hefyd wrth i Craig Conway, Andrew Taylor, Robert Earnshaw a Rudy Gestede ddychwelyd.

Blake yn iawn

Mae’r amddiffynnwr Darcy Blake hefyd wedi cadarnhau ei fod yn iawn ar ôl dioddef anaf i’w goes a gadael y cae ar ôl 41 o funudau o’r gêm rhwng Cymru a Bwlgaria nos Fawrth.

’’Doedd y cae ddim yn un o’r goreuon ac roedd yn achosi problemau,” meddai Blake. “Roedd yn synhwyrol i fi adael yn gynnar cyn i fi wneud yr anaf yn waeth.”

Dydd Sadwrn yw’r gêm gyntaf o saith mewn 22 diwrnod i’r Adar Gleision ac mae Ipswich yn cynnwys nifer o gyn chwaraewyr Caerdydd- Michael Chopra, Mark Kennedy, Jay-Emmanuel Thomas a’r gôli Aaron Lee-Barratt.

Dydyn nhw ddim wedi colli mewn pedair gêm, maen nhw wedi sgorio saith gôl ac ildio dim ond un. Roedd hynny’n cynnwys curo Brighton, un o dîmau gorau’r Bencampwriaeth hyd yma, o 3-1.