Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau fod Osian Roberts yn rhoi’r gorau i fod yn Gyfarwyddwr Technegol Ymddiriedolaeth CBDC ac yn Rheolwr Cynorthwyol tîm pêl-droed Cymru.

Fe fydd yn gadael Cymru er mwyn gwneud yr un gwaith gyda Chymdeithas Bêl-droed Moroco.

Ers ei benodiad yn 2007, mae wedi bod yn gysylltiedig â “Ffordd Gymreig” y tîm cenedlaethol o hyfforddi a chwarae.

Ers 2010, mae wedi chwarae rhan allweddol o staff hyfforddi’r tîm cenedlaethol, yn gyntaf fel Rheolwr Cynorthwyol i Gary Speed, cyn ymuno â thîm Chris Coleman yn 2014 gan gyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016 UEFA.

Yn 2018 cafodd ei benodi yn Hyfforddwr Cynorthwyol gan Ryan Giggs.