Fydd Gareth Bale ddim yn symud o Real Madrid at glwb Jiangsu Suning yn Tsieina.
Roedd disgwyl iddo lofnodi cytundeb tair blynedd gwerth miliwn o bunnoedd.
Mae e wedi chwarae mewn 79 o gemau’n unig mewn pedair blynedd gyda’r clwb yn Sbaen, ac mae’n ymddangos bod ei berthynas gyda’r rheolwr Zinedine Zidane yn fregus.
Dywedodd y rheolwr yr wythnos ddiwethaf fod y Cymro ar fin gadael a bod hynny “er lles pawb”.