Mae Geraint Thomas wedi cyflawni camp ryfeddol drwy orffen yn ail yn ras feics Tour de France, yn ôl y Cymro Syr Dave Brailsford, pennaeth tîm Ineos.

Roedd e’n gobeithio amddiffyn ei deitl, ond fe gollodd allan yn y pen draw i Egan Bernal o Golombia yn y cymal olaf.

Dyma’r tro cyntaf i unrhyw un o’r wlad honno ennill y Tour, a fe yw’r ieuengaf i’w hennill hi ers yr Ail Ryfel Byd, ac yntau ond yn 22 oed.

“Cafodd o Tour wych,” meddai Syr Dave Brailsford wrth Radio 5 Live.

“Y tro cynta’ mae rhywun yn ennill Tour de France, dydan nhw braidd byth yn dychwelyd ac yn perfformio’n dda y flwyddyn ganlynol.

“Mi wnaeth Geraint gyflawni’r annisgwyl ac mi allai o fod wedi ennill y ras.

“Mae o’n deg, mae o’n gytbwys, roedd o am ennill, ond cyn gynted ag y daeth y cyfle i’r tîm ennill, roedd o 100% y tu ôl i hynny, ac mae’n bleser pur cael gweithio efo fo.”