Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn gobeithio y bydd tri chwaraewr canol cae pwysig yn holliach ar gyfer dechrau eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth.
Mae Jay Fulton, George Byers a Wayne Routledge i gyd wedi cael anafiadau wrth baratoi ar gyfer y tymor newydd.
Bydd yr Elyrch yn herio Hull yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn nesaf (Awst 3).
Doedd George Byers na Wayne Routledge ddim ar gael ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Atalanta, a ddaeth i ben gyda buddugoliaeth o 2-1 i’r Cymry.
“Cafodd Jay ergyd i’w glun, felly gobeithio mai ychydig ddiwrnodau’n unig y bydd yn eu cymryd i wella.
“Doedden ni ddim eisiau cymryd risg o safbynt George na Wayne.
“Pe bai’r adeg yma’r wythnos nesaf, yna efallai y byddai’r penderfyniad wedi bod yn wahanol.
“Ond doedd dim angen i ni gymryd risg, a gobeithio y byddan nhw’n ôl yn ymarfer yn gynnar yr wythnos nesaf.”