Mae Egan Bernal o fewn dim i ennill y Tour de France eleni – gan groesi’r linell derfyn heddiw law yn llaw gyda’i cyd-seiclwr y Cymro Geraint Thomas a orffennodd yn ail.
Er bod un cymal ar ôl, mae’r cymal olaf yn wahanol i weddill y Tour, gan nad oes unrhyw un, yn draddodiadol, yn herio’r cystadleuydd sydd yn y crys melyn.
Roedd Egan Bernal, 22, yn gwisgo’r crys melyn ar ddechrau’r cystadlu heddiw, gyda’r cymal wedi’i gwtogi oherwydd pryderon am y tywydd.
Llwyddodd y gŵr o Golombia – sydd, fel Geraint Thomas, yn aelod o dîm Ineos – i ymestyn ei fantais ddydd Sadwrn. Vincenzo Nibali enillodd y cymal.
Mae gan Egan Bernal fantais o funud a 11 eiliad dros Geraint Thomas yn yr ail safle, gyda Steven Kruijswijk yn drydydd.
Mae’r Ffrancwr Julian Alaphilippe – a oedd wedi arwain y ras am gyhyd – wedi llithro lawr i’r pumed safle.