Mae Cwpan y Byd i’r Digartref wedi dechrau yng Nghaerdydd. Mae’r gêm gyntaf newydd orffen gyda thîm dynion Cymru yn sgorio 6 a Denmarc hefyd yn gyfartal gyda 6 gôl.  Ond Denmarc a orfu ar ôl ciciau o’r smotyn.

Mae disgwyl i dros 500 o chwaraewyr sy’n cynrychioli 48 o wledydd ymweld â Chaerdydd rhwng heddiw, Gorffennaf 27 ag Awst 3 ar gyfer y gystadleuaeth.

Bydd Cymru yn cystadlu yn y ddau gategori – dynion/cymysg a merched – a bydd yr holl gemau 4-bob-ochr yn cael eu cynnal ym Mharc Biwt.

Mae’r trefnwyr yn dweud eu bod eisiau defnyddio’r gystadleuaeth i greu cyfleoedd i bobl sy’n cael eu heffeithio gan ddigartrefedd.

Cafodd y cais llwyddiannus i ddenu’r twrnamaint, sy’n cael ei gynnal am y 17eg tro, i’r brif ddinas ei arwain gan yr actor Michael Sheen.

Yn ogystal â’r pêl-droed mae nifer o ddigwyddiadau ymylol wedi eu trefnu hefyd gan gynnwys gigs ac orielau celf.

Mae Gwenno, James Dean Bradfield, Mellt ac Alffa ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio yn ystod yr wythnos.