Dywedodd Geraint Thomas y bydd yn cefnogi ei gyd-seiclwr o dîm Ineos, Egan Bernal, “yn llwyr” yn y cymal nesaf o’r Tour de France heddiw.

Collodd Thomas amser ar Bernal, wrth i gymal 19 o’r Tour de France gael ei stopio ddoe 20km o’r diwedd oherwydd y tywydd.

Dywedodd y Cymro o Gaerdydd: “Mae Egan mewn melyn felly y peth pwysig ydy ei fod o’n gorffen y job.”

Wrth ymateb i’r tywydd ddydd Gwener, dywedodd ei fod “allan o reolaeth pawb”.

“Y prif beth ydy bod ganddon ni’r crys (melyn) yn y tîm nawr. Rydyn ni mewn sefyllfa gret.”

Bernal nawr yw’r ffefryn ar gyfer y fuddugoliaeth cyn cymal 20 rhwng Albertville a Val Thorens ddydd Sadwrn.

Wedi’r cymal, dywedodd Thomas y byddai’n cefnogi Bernal “yn llwyr” yn y cymal nesaf.

Pan ofynwyd i bennaeth  Ineos Sir David Brailsford os oedd y tywydd wedi bod o gymorth i’w dîm ennill y Tour, dywedodd y dyn a fagwyd ym mhentref Deiniolen, Caernarfon: “Naddo. ‘Nath o ddim. Fe wnawn ni ennill Tour de France oherwydd y ffordd yr ydan ni’n reidio.”