Mae Aden Flint, amddiffynnwr newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd, yn dweud ei fod yn “ddiolchgar am y cyfle” i gael symud at yr Adar Gleision.
Mae lle i gredu y gallai’r clwb dalu hyd at £6 miliwn i Middlesbrough am y chwaraewr a fydd yn llenwi’r bwlch sydd wedi’i adael gan ymadawiad Bruno Manga.
“Dw i wedi cyffroi o fod yma ac yn ddiolchgar am y cyfle,” meddai ar ôl i’r trosglwyddiad gael ei gadarnhau ar wefan y clwb.
“Fe ddigwyddodd yn gyflym iawn.
“Mae pawb eisiau chwarae yn yr Uwch Gynghrair a dyna pam ymunais i â nhw.
“Gobeithio y gallwn ni gael y canlyniadau cywir, cael dyrchafiad eto, a chael cyfle arall i wneud hynny.
“Dw i’n edrych ymlaen at fwrw iddi, ac alla i ddim aros tan y gêm gyntaf.”
Bruno Manga
Mae Bruno Manga wedi ymuno â Dijon am swm anhysbys, gan ddod â chyfnod o bum mlynedd gyda’r Adar Gleision i ben.
Ac mae Kenneth Zohore wedi symud at West Brom.
Mewn llythyr agored, dywedodd Bruno Manga y byddai’n “flin” ganddo adael y clwb.