Mae Matthew Maynard, prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg, yn cydnabod fod y glaw wedi achub ei dîm yn Cheltenham ddoe (dydd Gwener, Gorffennaf 19).

Roedden nhw’n 96 am wyth ar ôl 15.3 o belawdau o’r gêm ugain pelawd yn erbyn Swydd Gaerloyw pan ddaeth glaw trwm, a doedd dim rhagor o griced yn bosib wedi hynny.

“Mae angen rhywfaint o lwc yn y cystadlaethau hyn, ac rydan ni wedi cael get-awê efo un,” meddai.

“Rydan ni wedi cael lwc yn erbyn Swydd Gaerloyw.

“Rydan ni wedi cael pwynt, felly mi gymerwn ni hwnnw.”

Manylion y gêm

Seren y gêm oedd Benny Howell, bowliwr cyflym y tîm cartref, a gipiodd bum wiced am 18 yn ei bedair pelawd, ar ôl iddyn nhw alw’n gywir a gwahodd Morgannwg i fatio.

Dechreuodd y gêm yn brydlon, yn groes i’r disgwyl, ac fe ddechreuodd Morgannwg yn gadarn, wrth i David Lloyd daro cyfres o ergydion i’r ffin oddi ar fowlio David Payne a Matt Taylor yn y pelawdau agoriadol.

Ond ar ôl sgorio 43 yn erbyn Gwlad yr Haf yng Nghaerdydd nos Iau, fe gollodd Jeremy Lawlor, y batiwr ifanc o Gaerdydd, ei wiced heb sgorio pan gafodd ei ddal yn ystod pelawd ddi-sgôr gan David Payne.

Fe geisiodd y capten Colin Ingram glatsio, ac fe darodd e bedwar a chwech mewn pelawd, ac ar ôl taro chwech anferth i ganol y babell letygarwch, fe gafodd ei ddal ar y ffin oddi ar belen nesaf Ryan Higgins, wrth i Forgannwg orffen y cyfnod clatsio ar 44 am ddwy.

Dim ond un pelen arall oedd yn bosib cyn i’r glaw ddod am y tro cyntaf, wrth i David Lloyd gael ei ddal yn safle’r trydydd dyn oddi ar fowlio Benny Howell am 21.

Ail gyfnod o chwarae

Ar ôl colli 40 munud oherwydd y glaw, fe barhaodd y pwysau ar Forgannwg wrth i Owen Morgan gael ei redeg allan oddi ar y belen gyntaf, ac roedd y Cymry mewn dyfroedd dyfnion ar 44 am bedair.

Tarodd Chris Cooke gyfres o ergydion i’r ffin cyn i Benny Howell ei fowlio oddi ar ymyl ei fat, ac fe darodd e goes Billy Root o flaen y wiced yn ei belawd nesaf i waredu dau fatiwr dinistriol.

Yn ei belawd olaf, cipiodd Benny Howell ei ddwy wiced olaf, wrth waredu Dan Douthwaite a Graham Wagg, wrth i’r ddau gael eu dal yn gampus gan Jack Taylor ar ochr y goes.

Daeth pedair pelawd y bowliwr i ben ar ôl iddo gipio pum wiced am 18, ond fe ddaeth yr ornest i ben toc cyn 5 o’r gloch pan benderfynodd y dyfarnwyr na fyddai modd dychwelyd wrth i’r glaw barhau i wlychu’r cae.

Mae Morgannwg, felly, heb fuddugoliaeth yn eu dwy gêm gyntaf, ac fe fyddan nhw’n herio Surrey ar gae’r Oval nos Iau nesaf.